Y Seintiau yw'r pencampwyr

Chwarewyr TNS yn dathlu ennill Uwchgynghrair Cymru Image copyright Other
Image caption Rhai o chwaraewyr Y Seintiau newydd yn dathlu ennill yr Uwchgynghrair

Y Seintiau Newydd yw pencampwyr newydd uwchgynghrair Cymru ar ôl curo Bangor o 5-0 ar faes Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.

Roedd y pum munud cyntaf yn ysgytwol, ac yn arwydd o'r hyn oedd i ddod.

Wedi dim ond dau funud, gwrthododd y dyfarnwr gic o'r smotyn i'r Seintiau pan oedd hi'n ymddangos bod golwr Bangor wedi baglu Ryan Fraughan yn y cwrt.

O weld y digwyddiad eto ar y teledu, y dyfarnwr oedd yn gywir, gan ddangos cerdyn melyn i Fraughan am ffugio.

Ond o fewn munud i hynny, fe sgoriodd y tîm cartref.

Pas hir dros ben amddiffyn Bangor, a doedd Greg Draper ddim yn camsefyll.

Pwyllodd ymosodwr rhyngwladol Seland Newydd cyn gosod y bêl i'r gornel.

Wedi saith munud roedd hi'n ddwy, a cyn-chwaraewr Bangor, Chris Seargeant oedd y sgoriwr y tro hwn.

Cyn yr egwyl

Dechrau trychinebus i'r pencampwyr, ac roedd hi'n ymddangos bod y Seintiau am wneud yn iawn am golli'r bencampwriaeth ar ddiwrnod olaf y tymor diwethaf ar Ffordd Farrar.

Roedd y gwaith caled wedi ei wneud, ac fe aeth yn haws wedi 25 munud. Draper unwaith eto darodd y bêl dros ben golwr Bangor, Lee Idzi, ac fe beniodd y bêl i rwyd wag - 3-0.

I bob pwrpas, roedd yr ornest drosodd cyn yr egwyl.

Er i Fangor frwydro ychydig yn well wedi'r egwyl, roedd absenoldeb eu prif sgoriwr Les Davies oherwydd gwaharddiad yn amlwg yn anfantais sylweddol.

Manteisio ar hynny wnaeth y Seintiau, ac fe aethon nhw ymhellach ar y blaen pan rywdodd Ryan Fraughan i'w gwneud hi'n 4-0.

Daeth halen ar friw Bangor yn y munudau olaf pan gafodd y Seintiau gic o'r smotyn am drosedd gan gapten Bangor, Jamie Brewerton.

Roedd yn gyfle hefyd i Greg Draper gael ei hat-tric ac fe wnaeth hynny o'r smotyn i'w gwneud hi'n bum gôl i'w dîm.

Roedd y canlyniad yn newyddion da hefyd i Derwyddon Cefn.

Gan bod y Seintiau wedi ennill yr Uwchgynghrair - ac felly'n mynd i Gynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf - Derwyddon Cefn fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa gan iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Ben arall y tabl roedd drama wrth i Aberystwyth sgorio yn hwyr yn eu gêm yn erbyn Y Drenewydd.

Mae hynny'n golygu bod Aberystwyth yn aros yn yr Uwchgynghrair, ac yn golygu y bydd Caerfyrddin yn disgyn er iddyn nhw hefyd ennill eu gêm olaf brynhawn Sadwrn.

Canlyniadau

Seintiau Newydd 5-0 Bangor

Aberystwyth 3-2 Y Drenewydd

Lido Afan 1-2 Airbus UK Brychdyn

Castell-nedd 1-5 Llanelli

Port Talbot 0-1 Caerfyrddin

Prestatyn 1-2 Bala

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Y Seintiau Newydd 32 +43 74
2. Bangor 32 +28 69
3. Castell-nedd 32 +25 62
4. Llanelli 32 +26 59
5. Bala 32 +7 49
6. Prestatyn 32 -21 28
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Airbus UK Brychdyn 32 -2 39
8. Port Talbot 32 -12 33
9. Lido Afan 32 -15 32
10. Aberystwyth* 32 -5 33
11. Caerfyrddin 32 -34 32
12. Y Drenewydd* 32 -38 23
* - Y Drenewydd yn ildio 3 phwynt ac Aberystwyth yn ildio 1 am fod â chwaraewyr nad oedd yn gymwys.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.