Morgannwg yn atgyfodi

Graham Wagg Image copyright Getty Images
Image caption Cipiodd Graham Wagg ddwy wiced sydyn yn ail fatiad Hampshire

Roedd hi'n ymddangos bod Morgannwg mewn trafferthion ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm yn y bencampwriaeth yn erbyn Hampshire yn Stadiwm Swalec.

Wedi diwrnod siomedig ddydd Gwener, fe ddaeth y batwyr i'r adwy ddydd Sadwrn, yn enwedig Ben Wright.

Sgoriodd Wright 104 yn ail fatiad Morgannwg, a gyda chymorth 54 gan Stewart Walters, llwyddodd Morgannwg i gael cyfanswm o 256 yn eu hail fatiad - mantais o 203.

Yna fe gipiodd Graeme Wagg ddwy wiced sydyn ar ddechrau ail fatiad yr ymwelwyr.

Cyfrannodd Allenby a Henriques wiced yr un hefyd wrth i Forgannwg weld cyfle am fuddugoliaeth annisgwyl gydag Allenby yn cipio wiced bwysig Simon Katich.

Ond aeth rhediadau hwyr i'r ymwelwyr i olygu y bydd hi'n ddiweddglo cyffrous iawn i'r gêm ar y diwrnod olaf ddydd Sul.

Y nod i Hampshire yw 204, ond os daw wicedi cynnar i Forgannwg, bydd y capten Mark Wallace yn gobeithio y gall ei dîm gipio eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn.

Morgannwg v Sir Hampshire (Trydydd diwrnod)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) 103 am 9

(ail fatiad)256

Hampshire: (Batiad cyntaf) 156

(ail fatiad) 110 am 4

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.