Jones yn trechu pencampwr

Jamie Jones Image copyright PA
Image caption Jamie Jones: '... Dwi ddim wedi chwarae gêm fel hon ond dwi'n credu y galla i chwarae'n well.'

Mae Jamie Jones o Gastell-nedd wedi trechu pencampwr 2005, Shaun Murphy, ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Hwn yw'r tro cyntaf i'r Cymro 24 oed chwarae yn y bencampwriaeth ac enillodd 10-8 cyn wynebu Andrew Higginson neu Stephen Lee yn yr ail rownd.

Dywedodd Murphy: "Roedd yn annisgwyl ond pob clod i Jamie. Roedd y gêm o ansawdd uchel ac, yn sicr, roedd Jamie'n chwarae fel rhywun profiadol nid newydd-ddyfodiad."

Dywedodd Jones: "Roedd y pwysau'n anhygoel. Dwi ddim wedi chwarae gêm fel hon ond dwi'n credu y galla i chwarae'n well.

"Roedd pawb gartre'n gwylio'r gêm ac mae'r ffôn wedi bod yn canu'n ddi-baid. Mae fel ffair gartre."

Murphy yw'r ail un i golli yn y rownd gyntaf wedi perfformiad siomedig Mark Allen ddydd Sadwrn.

Jones yw'r 36ed yn y byd a bydd yr ail rownd ddydd Sul a dydd Llun.

Cafodd Jones gychwyn gwych ddydd Sul.

Sgôr:

Rownd 1 -

Shaun Murphy 8-10 Jamie Jones

Straeon perthnasol