Rhybudd i Mark Williams gan Gadeirydd Snwcer y Byd

Mark Williams Image copyright PA
Image caption Gall Mark Williams wynebu gwaharddiad ar ôl ei sylwadau ar wefan Twitter

Mae cadeirydd Snwcer y Byd, Barry Hearn, wedi rhybuddio y gallai'r cyn-bencampwr, Mark Williams, wynebu gwaharddiad ar ôl sylwadau a wnaeth am Y Crucible ar wefan Twitter.

Diwrnod cyn i Bencampwriaeth y Byd gychwyn yn Sheffield fe wnaeth Williams, enillodd y bencampwriaeth ddwywaith yn 2000 a 2003, feirniadu'r theatr, sydd wedi cynnal y bencampwriaeth ers 1977.

"Pam y byddai pencampwr y byd ar ddau achlysur yn defnyddio geiriau fel yna mewn lle cyhoeddus am y lleoliad?" meddai Hearn.

"Dwi ddim yn deall.

Dywedodd fod angen ymateb priodol i sylwadau Williams.

"Mae gennym y grym i wneud unrhyw beth, cyn belled a bod ni wedi ymddwyn yn rhesymol - a gall hynny olygu ei atal dros dro neu ei wahardd."

Ffŵl

Roedd Williams wedi hefyd wedi dweud ei fod yn gobeithio bydd y bencampwriaeth yn symud i China yn fuan.

"Y peth yw dwi ddim am glywed pethau fel yma," meddai Hearn.

"Mae'n amser da i fod yn chwaraewr snwcer.

"Dyw hi ddim yn amser da i fod yn ffŵl."

Fe fydd Williams, sy'n rif dau yn y byd, yn cychwyn ar ei ymgyrch ym Mhencampwriaeth y Byd ddydd Mercher yn erbyn Liu Chuang o China.

Mae Hearn hefyd wedi bod yn feirniadol o Mark Allen o Ogledd Iwerddon.

Mae'r chwaraewr 26 oed yn wynebu cyhuddiad disgyblu ar ôl iddo wneud cyhuddiadau fod Cao Yupeng o China wedi bod yn twyllo.

Straeon perthnasol