Clwb yn atal chwaraewr ar ôl honiadau trydar

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener

Mae Sheffield United wedi atal un o gyd-chwaraewyr Ched Evans ar ôl sylwadau honedig ar wefan Twitter wedi i ymosodwr Cymru gael ei garcharu am dreisio merch.

Dywedodd y clwb y bydden nhw'n ymchwilio i'r honiadau fod Connor Brown wedi trydar wedi'r achos.

Mae arbenigwyr cyfreithiol wedi codi pryderon wedi i bobl eraill enwi'r ferch ar Twitter.

Cafodd Evans, 23, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener am dreisio merch 19 oed ger Y Rhyl.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud y bydd rhywun neu rywrai'n cael eu harestio wrth iddyn nhw ymchwilio i adroddiadau fod enw'r ddynes wedi cael ei gyhoeddi ar y safle a sylwadau sarhaus wedi'u gwneud amdani.

Yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Steve Williams, dylai pobl sy'n gwneud sylwadau am yr achos "ddeall y gallan nhw ... gyfrannu at y loes barhaol y mae'r ddynes ifanc yma'n ei dioddef."

Yn syth

Dywedodd Sheffield United fod Brown wedi cael ei atal yn syth. Does dim awgrym fod y chwaraewr wedi enwi'r ferch dan sylw.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd y clwb: "Fydd y clwb ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach yn ystod yr ymchwiliad, ac rydym yn gobeithio y bydd wedi'i gwblhau'n sydyn."

Roedd Evans wedi cyfadde' cael rhyw gyda'r ferch mewn gwesty yn Rhuddlan fis Mai'r llynedd.

Dywedodd hi nad oedd hi'n cofio'r digwyddiad a llwyddodd yr erlyniad i ddadlau ei bod hi'n rhy feddw i gydsynio i'r gyfathrach rywiol.

Cafwyd amddiffynwr Port Vale, Clayton McDonald, 23 - oedd hefyd wedi cyfadde' cysgu gyda'r ferch - yn ddieuog o dreisio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.