'Yr adeilad sy'n symbol o rym plaid'

Adeilad Morgannwg
Image caption Bellach mae 'Adeilad Morgannwg' yn adnabyddus fel lleoliad i ffilmio dramâu teledu

Yng nghanol Parc Cathays yng Nghaerdydd saif symbol o'r ffordd yr oedd llywodraeth leol yng Nghymru yn arfer gweithredu.

Bellach mae "Adeilad Morgannwg" Prifysgol Caerdydd yn adnabyddus fel lleoliad i ffilmio dramâu teledu ond am bron i wyth degawd roedd yn brawf o rym y Blaid Lafur ar ein cynghorau.

Neuadd y Sir, cartref Cyngor Sir Morgannwg ac yna Cyngor Morgannwg Ganol, oedd yr adeilad ers talwm ac am bron y cyfan o'i oes, Llafur oedd yn teyrnasu.

Roedd gohebu o Neuadd y Sir i'r BBC yn brofiad rhyfedd.

Yn gyntaf, roedd camerâu wedi eu gwahardd nid yn unig o'r siambr ond o'r adeilad cyfan. Rhaid oedd cynnal pob cyfweliad ar y palmant - tywydd garw ai peidio.

Y tu mewn i'r Siambr roedd llond dwrn o gynghorwyr ar fainc y gwrthbleidiau yn gorfod brwydro i gael eu clywed wrth i gynghorwyr Llafur, oedrannus a gwrywaidd bron i gyd, fynegi eu dirmyg.

Doedd Llafur ddim yn dominyddu ym mhobman, wrth gwrs.

Aelodau Annibynnol oedd wrth y llyw yn y rhan fwyaf o'r cynghorau gwledig ac roedd ambell i ardal drefol megis Caerdydd yn gystadleuol - ond eithriadau oedd y rheiny.

Lleiafrifoedd ethnig

Dechreuodd y sefyllfa newid gydag ad-drefnu llywodraeth leol yng nghanol y nawdegau pan gafodd yr hen gynghorau sir a dosbarth eu diddymu gyda 22 o gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol yn cymryd eu lle.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r Blaid Lafur yn rheoli tri chyngor sir yng Nghymru - Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, a Chastell-nedd Port Talbot

Er i Lafur reoli'r rhan fwyaf o'r cynghorau newydd yn eu dyddiau cyntaf fe wnaeth y blaid ymdrech fwriadol i ddenu gwaed newydd - yn fwyaf arbennig rhagor o fenywod ac aelodau lleiafrifoedd ethnig.

Dechreuodd y newid go iawn gydag etholiadau lleol 2004 a 2008 wrth i'r pleidiau eraill ac ymgeiswyr annibynnol dorri crib y Blaid Lafur ar y cynghorau.

Ar ôl etholiad 2008 dim ond ar ddau gyngor, Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Porth Talbot, yr oedd gan Lafur fwyafrif er ei bod wedi llwyddo i adennill un cyngor, Pen-y-bont ar Ogwr, ers hynny.

Fe fydd Llafur yn gobeithio cipio llwyth o seddi fan hyn, gan adennill mwyafrifoedd ar dros hanner cynghorau Cymru.

Fe fyddai cyflawni hynny hefyd yn sicrhau rheolaeth ar y Gymdeithas Llywodraeth Leol, corff o bwysigrwydd sylweddol ym mywyd sifil Cymru.

Trahaus

Ond dyw hyd yn oed aelodau blaenllaw y Blaid Lafur ddim am ddychwelyd at y dyddiau pan oedd Llafur yn dominyddu ac yn cael ei gweld mewn sawl ardal fel plaid oedd yn drahaus ei hagwedd tuag at yr etholwyr.

Er mwyn osgoi hynny mae'r blaid wedi cyflwyno system o gytundebau i ymgeiswyr yn amlinellu'r ffordd y disgwylir iddyn nhw ymddwyn ar ôl cael eu hethol.

Mewn cyfweliad ar ddechrau'r ymgyrch dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Peter Hain, wrthyf fod yr etholwyr yn "gwbl iawn" am nad oedden nhw am ddychwelyd i'r hen drefn .

Fe fydd y ffordd y mae ein cynghorau'n cael ei rhedeg dros y pum mlynedd nesaf yn dibynnu ar eich pleidleisiau chi ar Fai 3 ond, er gwaethaf y pwysau ariannol enfawr ar gynghorau, mae'n debyg eu bod yn fwy agored a chynrychiadol yn awr nac ar unrhyw adeg ers codi neuadd sir Edwardaidd ysblennydd Morgannwg.

Straeon perthnasol