Trydar: Heddlu'n mynd i arestio

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud y bydd rhywun neu rywrai'n cael eu harestio wrth iddyn nhw ymchwilio i adroddiadau fod enw dynes gafodd ei threisio wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Twitter a sylwadau sarhaus wedi eu gwneud amdani.

Cafodd Ched Evans, 23 oed, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener am dreisio merch 19 oed ger Y Rhyl.

Dywedodd Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Pritchard: "Byddwn ni'n sicrhau bod dioddefwyr achosion treisio'n ddienw yn unol â Deddf (Newid) Troseddau Rhywiol 1992 ac y bydd rhai sy'n troseddu yn cael eu herlyn."

Mae Sheffield United wedi atal un o gyd-chwaraewyr Evans ar ôl sylwadau honedig ar wefan Twitter wedi i ymosodwr Cymru gael ei garcharu.

Dywedodd y clwb y bydden nhw'n ymchwilio i'r honiadau fod Connor Brown wedi trydar wedi'r achos.

Yn syth

Dywedodd Sheffield United fod Brown wedi cael ei atal yn syth. Does dim awgrym fod y chwaraewr wedi enwi'r ferch dan sylw.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd y clwb: "Fydd y clwb ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach yn ystod yr ymchwiliad, ac rydym yn gobeithio y bydd wedi'i gwblhau'n sydyn."

Roedd Evans wedi cyfadde' cael rhyw gyda'r ferch mewn gwesty yn Rhuddlan fis Mai'r llynedd.

Dywedodd hi nad oedd hi'n cofio'r digwyddiad a llwyddodd yr erlyniad i ddadlau ei bod hi'n rhy feddw i gydsynio i'r gyfathrach rywiol.

Cafwyd amddiffynwr Port Vale, Clayton McDonald, 23 - oedd hefyd wedi cyfadde' cysgu gyda'r ferch - yn ddieuog o dreisio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.