9% o gynnydd yn nhrosiant Admiral

Admiral, Swansea Image copyright Other
Image caption Mae Admiral yn cyflogi tua 3,200 o bobl yn ei swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Abertawe

Mae cwmni yswiriant Admiral o Gaerdydd wedi cyhoeddi cynnydd o 9% yn eu trosiant yn ystod tri mis cyntaf 2012.

Yn ôl amcangyfrifon, mae disgwyl i'r cwmni gyhoeddi elw cyn treth o £322 miliwn ar gyfer 2012.

Mae'r cwmni yn cyflogi 1,800 o bobl yng Nghaerdydd a 1,400 yn Abertawe.

Y llynedd cyhoeddodd y cwmni ei fwriad i adleoli tair swyddfa yng Nghaerdydd i safle newydd ger canolfan siopa Dewi Sant yn y ddinas.

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd prif weithredwr y cwmni, Henry Engelhardt, bod y busnes yn "parhau i dyfu".

Dim newid

Dywedodd y cwmni, sy'n yswirio un o bob deg car ar ffyrdd Prydain, na fu newid yn y patrwm o hawlio ar bolisïau o'i gymharu â chwarter olaf 2011.

Yr adeg hynny bu cwymp mewn taliadau wedi cynnydd sydyn dros y tri mis blaenorol ac roedd hynny, meddai'r cwmni, oherwydd nifer fach o daliadau mawr ar gyfer gofal tymor hir gyrwyr gafodd eu hanafu.

Dywedodd Mr Engelhardt: "Mae ein busnes yn parhau i dyfu ac mae ein disgwyliadau ar gyfer y flwyddyn gyfan yn parhau yn bositif."

Mae Admiral, sy'n masnachu dan yr enwau Admiral, Bell ac Elephant, hefyd yn berchen ar y wefan gymharu prisiau Confused.com.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.