Dim cytundeb newydd i Brian Flynn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru

Brian Flynn Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Brian Flynn sydd wedi rheoli timau ieuenctid Cymru ers 2004

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Brian Flynn yn cael cynnig cytundeb newydd i barhau yn ei swydd i dimau Cymru dan 21 oed a'r timau iau eraill.

Mae Flynn, 56 oed, wedi rheoli timau ieuenctid cenedlaethol Cymru, gan gynnwys y tîm dan 21 ers cael ei benodi yn 2004.

Roedd cyn-chwaraewr Burnley, Wrecsam a Leeds United yn rheolwr tîm Cymru am ddwy gêm wedi i John Toshack adael y swydd yn 2010.

Bydd cytundeb cyn-reolwr Abertawe a Wrecsam, wnaeth chwarae 66 gwaith dros Gymru, yn dod i ben ar ddiwedd mis Mai.

Dywedodd datganiad gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru: "Hoffwn ddiolch i Brian gan gydnabod y gwaith gwych mae wedi cyflawni dros bêl droed Cymru dros y blynyddoedd."

Chwaraeodd rhan bwysig o ran datblygu chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen a Wayne Hennessey."

Cafodd y tîm dan 21 lwyddiant ac ar ôl colli yn y gemau ail-gyfle methu sicrhau eu lle ym mhencampwriaeth Ewrop dan 21 yn 2009.

Fe wnaethon nhw golli cyfle hefyd yn 2011.

Yn yr ymgyrch bresennol ar gyfer 2013 mae Cymru yn gydradd gyntaf yn y grŵp gyda'r Weriniaeth Siec er bod gan y gwrthwynebwyr ddwy gêm mewn llaw.

Fe fydd Cymru yn wynebu gêm cartref yn erbyn Armenia ym mis Awst cyn teithio i'r Weriniaeth Siec ym mis Medi.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.