Ffordd gyswllt Wrecsam i agor yn gynt na'r disgwyl

Rhan o'r ffordd gyswllt i Ystâd Diwydiannol Wrecsam Image copyright Other
Image caption Dywed Cyngor Wrecsam fod y gwelliannau i'r mynediad wedi'i wneud ar ôl "hir ddisgwyl"

Bydd ffordd gyswllt i Stad Diwydiannol Wrecsam, gwerth miliynau o bunnoedd, yn agor yn gynt na'r disgwyl ar Orffennaf 16 eleni.

Dechreuodd y cynllun gwerth £35 miliwn yn 2010 gyda'r nod o wella mynediad i'r stad sy'n gartref i 300 cwmni gan gynnwys Kellogs a JCB.

Bydd y ffordd ogleddol rhwng cylchfan Borras i gylchfan Lôn Bryn ac fe fydd y ffordd ddeheuol rhwng Cross Lanes a Five Fords.

Dywed Cyngor Wrecsam fod y gwelliannau i'r mynediad wedi'i wneud ar ôl "hir ddisgwyl".

Tirlunio

Y disgwyl yw i'r ffordd newydd wella mynediad i'r stad sy'n cyflogi 7,000 o bobl a chynnig gwell cysylltiadau trafnidiaeth i fusnesau.

Dywedodd John Bradbury, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Wrecsam: "Cafodd y ffordd ei hadeiladu diolch i gyllid 100% gan Lywodraeth Cymru.

"Mae'r ffordd yn cynnig gwelliannau hir ddisgwyl i un o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop."

Bydd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru yn agor y ffordd yn swyddogol.

Bydd confoi o gerbydau sy'n gysylltiedig â'r ystâd ddiwydiannol yn gyrru ar hyd y ffordd fel rhan o'r seremoni agoriadol.

Y disgwyl yw i'r ffordd fod ar agor i'r cyhoedd yr un diwrnod ac fe fydd yr ardal yn cael ei thirlunio yn ystod yr Hydref.

Cafodd ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal cyn i'r cynllun gael ei gymeradwyo am fod tirfeddianwyr lleol wedi codi pryderon ynghylch aflonyddwch.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.