Mechnïaeth i dri am sylwadau Twitter yn achos Ched Evans

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae tri dyn gafodd eu harestio oherwydd honiadau bod dynes gafodd ei threisio wedi cael ei henwi ar wefan Twitter wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd y sylwadau honedig ar ôl i ymosodwr Sheffield United a Chymru, Ched Evans, gael ei garcharu am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych yn 2011.

Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio neu'n diodde' o ymosodiadau rhywiol yr hawl i fod yn anhysbys am oes.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Steve Williams o Heddlu Gogledd Cymru y byddai mwy o bobl yn cael eu harestio o fewn dyddiau.

Mae'r tri wedi eu rhyddhau er mwyn caniatáu i Heddlu'r Gogledd wneud ymholiadau pellach ac ymgynghori efo Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Dydd Iau cadarnhaodd cyfreithwyr y pêl-droediwr y byddai'n apelio yn erbyn y dyfarniad.

Pum mlynedd

yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Evans, 23 oed, ei garcharu am bum mlynedd ddydd Gwener ddiwethaf.

Roedd wedi cyfadde' iddo gael rhyw gyda'r ddynes, sydd erbyn hyn yn 20 oed, ond ei bod hi wedi cydsynio.

Ond dywedodd y ddynes nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r digwyddiad ac fe wnaeth yr erlyniad ddadlau yn llwyddiannus ei bod yn rhy feddw i gydsynio.

Cafwyd amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, 23 oed, oedd hefyd wedi cyfadde' iddo gael rhyw gyda'r ddynes, yn ddieuog o dreisio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.