Y pleidiau'n ymgyrchu'n frwd ar gyfer yr etholiadau lleol

  • 30 Ebrill 2012
Gorsaf Bleidleisio
Bydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ddydd Iau

Wedi mis tymhestlog i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a pherfformiadau gwell gan y Blaid Lafur mewn arolygon barn, beth yw gobeithion y prif bleidiau yn yr etholiadau lleol ddydd Iau?

Fe ddechreuodd yr ymgyrch gyda ffrae ynghylch codi treth ar werth ar bastai poeth a'r toriad mewn treth incwm i bobl gyfoethog.

Ers hynny, rydym wedi gweld prynu gwyllt mewn gorsafoedd petrol, yr oedi ynghylch alltudio Abu Qatada, cwestiynau yn cael eu gofyn ynghylch perthynas gweinidogion â theulu Rupert Murdoch, a'r datganiad bod economi'r DU mewn dirwasgiad unwaith eto.

Ond nid yw mis gwael i Lywodraeth y DU yn golygu y bydd pobl yn heidio i bleidleisio i'r Blaid Lafur.

Ennill tir

Mae gan y blaid honno lawer o waith i adennill tir ers y tro diwethaf y bu cystadlu ar gyfer 1,200 sedd gyngor Cymru bedair blynedd yn ôl.

Mae'r Blaid Lafur yn amddiffyn tua 340 o seddi yng Nghymru ac fe fydd ganddyn nhw 880 o bobl yn sefyll fel ymgeiswyr ar hyd a lled Cymru.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd byddai'r blaid yn siomedig pe na baen nhw'n ennill o leiaf 450 o seddi.

Bydd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol a nifer o ymgeiswyr annibynnol yn ceisio ennill tir ddydd Iau mewn 21 o'5 22 cynor.

Fydd etholwyr Ynys Môn ddim yn pleidleisio am flwyddyn arall ar ôl i Weinidog Llywodraeth Leol Cymru ohirio'r etholiadau yno.

Comisiynwyr sy'n rhedeg y cyngor yno ar hyn o bryd.

Canlyniadau calonogol

Mae gan Blaid Cymru arweinydd newydd, Leanne Wood.

Mae'r blaid honno'n mynnu nad refferendwm ar yr arweinydd newydd fydd yr etholiadau lleol.

Cafodd Plaid Cymru ganlyniadau calonogol yn etholiadau lleol mis Mai 2008 er iddi golli rheolaeth ar Gyngor Gwynedd, rheolaeth gafodd ei adfer wedi is-etholiadau.

"Fe fydd cynghorau Plaid Cymru yn cyflwyno modelau meddiannu a fydd yn gyrraeddadwy i fusnesau bach a chytundebau a fydd yn cynnwys cymalau ar yr amgylchedd a chymdeithas er mwyn hybu datblygiad cynaliadwyedd a'r economi," meddai Ms Wood.

Bydd yr etholiadau yn brawf diddorol i'r Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi bod yn cynyddu eu pleidlais yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys disodli Plaid Cymru fel y blaid gyda'r mwyaf o aelodau cynulliad heblaw am y Blaid Lafur.

Byddan nhw'n gobeithio dal eu gafael ar Gyngor Bro Morgannwg lle enillon nhw reolaeth yn 2008.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Jane Finch-Saunders bod neges Llafur yn parhau i "fod yn negyddol gydag ychydig o syniadau lleol a pholisïau lleol, tra bod gan y Ceidwadwyr Cymreig weledigaeth glir am y modd o wella ein cymunedau a rhoi mwy o gyfle i bobl ddweud eu dweud am eu dyfodol."

Yn ôl yr Athro Jones fe fydd hi'n etholiad llwyddiannus i'r Ceidwadwyr Cymreig pe baen nhw'n cadw eu gafael ar y 170 o seddi enillon nhw bedair blynedd yn ôl.

Llai o ymgeiswyr

Mae'n bosib y bydd trafferthion clymblaid David Cameron a Nick Clegg yn anghyfleus i'r Ceidwadwyr Cymreig ond beth mae'r problemau yma yn ei olygu i'r Democratiaid Rhyddfrydol?

Bydd atal heriau'r Blaid Lafur yn Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe yn dipyn o gamp.

"Mae ennill Caerdydd o fewn ein gafael," meddai arweinydd Plaid Lafur Cymru, Carwyn Jones, yn ddiweddar.

Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r unig blaid ymysg y pedair prif blaid fydd yn maesu llai o ymgeiswyr nag a wnaethon nhw'n 2008.

Maen nhw wedi datgan y byddan nhw'n brwydro mewn ardaloedd lle maen nhw'n debygol o wneud yn dda.

"Rydym yn gystadleuol yn y seddi yr ydym yn eu cynrychioli," meddai llefarydd y Blaid ar Lywodraeth leol, Peter Black.

Bydd yn rhaid i'r pleidiau aros tan ddydd Iau pan fydd y cyhoedd yn lleisio eu barn.