Marwolaeth anesboniadwy yn Noc Penfro

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio ar ôl i ddyn 39 oed farw yn Noc Penfro nos Sadwrn.

Dywed yr heddlu eu bod yn trin marwolaeth y dyn fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.

Mae crwner Sir Benfro wedi cael ei hysbysu ynglŷn â'r farwolaeth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.