Canfod corff dyn 31 oed mewn tŷ ym Mae Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi marw mewn tŷ ym Mae Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ty yn Ffordd James McGhan am 6.49am ddydd Sadwrn.

Cafwyd hyd i'r dyn 31 oed yn y ty.

Mae ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.

Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.