Damwain: Torri menyw'n rhydd

Cafodd menyw ei thorri'n rhydd o'i cherbyd oherwydd damwain rhwng saith gerbyd ar yr A483 rhwng Yr Orsedd a Gresffordd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd yn credu bod neb wedi ei anafu'n ddifrifol.

Roedd y ddamwain am 5.20pm ac anfonwyd dwy injan dân.

Ar un adeg roedd tagfeydd hir i gyfeiriad y de ond erbyn hyn, mae traffig yn symud.