Snwcer: Matthew Stevens yn yr wyth olaf

Matthew Stevens Image copyright PA
Image caption Matthew Stevens yw'r ail Gymro i gyrraed yr wyth olaf

Bydd o leiaf un Cymro yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Enillodd Matthew Stevens ei gêm yn erbyn Barry Hawkins yn yr ail rownd ddydd Llun.

Ei wobr yn dilyn y fuddugoliaeth o 13-11 fydd wynebu Ryan Day o Gymru yn rownd yr wyth olaf.

Dechreuodd Stevens y bore yn gyfartal 8-8 gyda Hawkins, ac fe gipiodd Stevens ddwy ffrâm gyntaf y dydd cyn i Hawkins ennill y ddwy nesaf - 10-10.

Yn ôl y daeth Stevens i gipio'r ddwy nesaf, a'i adael o fewn un ffrâm i fynd drwodd, ond roedd Hawkins yn wrthwynebydd dewr, ac fe ddaeth yn ôl o fewn un ffrâm eto - 12-11.

Ond Stevens gafodd y cyfle cyntaf yn ffrâm 24, ac fe gafodd rediad o 57 cyn gosod snwcer i Hawkins.

Methu chwarae'n saff fu hanes y Sais, ac fe ddychwelodd Stevens i'r bwrdd i gipio'r ffrâm a'r ornest.

Jamie Jones

Image copyright PA
Image caption Tair ffrâm yn unig sydd gan Jones i'w hennill er mwyn cyrraedd y chwarteri

Cymro arall sy'n gobeithio cyrraedd y chwarteri yw Jamie Jones o Gastell-nedd.

Fe wnaeth Jones, sy'n chwarae yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf erioed, lwyddo i sicrhau sgôr o 10-6 ar ddiwedd yr ail sesiwn yn erbyn Andrew Higginson.

Wedi'r sesiwn gyntaf, roedd y chwaraewr wnaeth guro'r cyn-bencampwr Shaun Murphy yn y rownd gyntaf, yn gyfartal.

Ond cafodd rediadau o 95 a 101 er mwyn bod ar y blaen o bedair ffrâm ar ddechrau'r drydedd sesiwn.

Bydd Mark Williams hefyd yn cwblhau ei rownd yn erbyn Ronnie O'Sullivan ddydd Llun, O'Sullivan ar y blaen o 11-5.

Dydd Llun

Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)

Straeon perthnasol