Dyn 31 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth

Peter Lewis Image copyright Other
Image caption Roedd Peter Thomas yn Gristion a oedd yn edrych ymlaen at fywyd tragwyddol

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 68 oed yng Nghaerdydd dros y penwythnos wedi arestio dyn 31 oed.

Cafwyd hyd i Peter Lewis wedi ei drywanu unwaith yn ei stumog yng nghyntedd cymunedol tŷ lle'r oedd ei fflat yn Heol Claude yn ardal Y Rhath tua 2.45am ddydd Sadwrn.

Bu farw Mr Lewis, oedd ag anawsterau dysgu, yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd yn ddiweddarach.

Cafodd y dyn 31 oed, sy'n byw yn lleol, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth nos Lun.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf Bae Caerdydd.

Dywedodd yr heddlu bod teulu Mr Lewis, a'i disgrifiodd ddydd Llun fel oedd bob tro â gwen ar ei wyneb ac yn gwneud i bawb o'i amgylch wenu hefyd, yn ymwybodol o'r datblygiadau.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu eu bod yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu cefnogaeth wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Maen nhw'n parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un.

Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn Heol Claude, Stryd Oakfield, Broadway, Gold Street, Stryd Clifton a'r ardal gyfagos yn oriau mân bore Sadwrn i gysylltu gyda nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Canolog Caerdydd ar 029 2057 1530 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.