Baneri lliwgar yn rhoi croeso i'r Urdd yn Sir Benfro

Ysgol Clydau Image copyright Other
Image caption Rhai o ddisgyblion Ysgol Clydau gyda'u baner

Cyn Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro roedd cystadleuaeth dylunio baner wedi ei chynnal.

Roedd dros 800 o blant pobl ifanc, athrawon, rhieni a chefnogwyr yn gorymdeithio drwy ganol tref Hwlffordd ddydd Sadwrn a dwy ysgol yn cario baneri buddugol.

Rhannwyd y wobr o £500 rhwng Ysgol Brynconin ac Ysgol Clydau.

'Ymdrech'

Roedd y gystadleuaeth wedi ei noddi gan Western Power Distribution (WPD) a dau gynrychiolydd o'r cwmni ynni yn bresennol i feirniadu'r gystadleuaeth.

"Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn croesawu'r Eisteddfod i'r ardal," meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

Image copyright Other
Image caption Rhai o ddisyblion Ysgol Brynconin gyda'u baner

"Roedd pob un ysgol wedi gwneud ymdrech wych yn y gystadleuaeth.

"Mae'r brwdfrydedd yn yr ardal tuag at yr Eisteddfod yn syfrdanol ac rwyf yn hyderus y bydd Eisteddfod 2013 yn Sir Benfro yn un i'w chofio."

Ychwanegodd Phil Davies, Rheolwr Gwasanaethau Rhwydwaith Cymru, WPD, eu bod yn falch iawn o gynnig cefnogaeth i'r Eisteddfod.

"Roedd yn wych gweld cynifer o blant, pobl ifanc, athrawon, rhieni a chefnogwyr yn cymryd rhan yn yr orymdaith trwy ganol Hwlffordd ac rydym yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn 2013.

"Rydym o'r farn fod cymryd rhan yn yr Eisteddfod yn ennyn hyder pobl ifanc ac y bydd y profiad o gystadlu yn un fydd yn aros yn eu cof am byth."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.