Llywodraeth Cymru'n ystyried astudiaeth ar dollau

Tollborth Ail Bont Hafren
Image caption Bu cwymp o 7% yn nifer y cerbydau a ddefnyddiodd ail bont Hafren

Mae astudiaeth i effaith y tollau am groesi Pont Hafren ar y gweill.

Cafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud y bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i lunio unrhyw ddadl am newid y tal i Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan.

Mae'r byd busnes wedi cwyno ers tro bod y tollau'n cael effaith negyddol ar yr economi.

Y tal i geir bellach yw £6, £12.10 am faniau, a £18.10 am lorïau.

Tystiolaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y llynedd fe wnaethom roi cytundeb i Ove Arup i gynnal astudiaeth i effaith y tollau i grosei'r Hafren, ynghyd ag asesu a chydbwyso'u heffaith ar economi Cymru.

"Rydym yn rhagweld y bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn y gwanwyn.

"Bydd canlyniadau'r astudiaeth yn rhan o'n trafodaethau gyda llywodraeth y DU ar ddyfodol y gyfundrefn tollau, a bydd yn sicrhau y gallwn gyflwyno unrhyw ddadl am newid i lywodraeth y DU yn seiliedig ar y dystiolaeth orau posib."

Mae Martin Evans o Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg wedi bod yn feirniadol o'r taliadau, ac yn credu eu bod yn cael effaith negyddol ar weithgaredd economaidd yng Nghymru.

Dywedodd: "Yn amlwg mae tollau ar bont yn lleihau'r galw.

"Bydd pobl yn chwilio am ffordd arall hyd yn oed os yw hynny'n daith bell.

"Wedyn bydd eraill sy'n gweld y tollai fel rhwystr rhag croesi o Gymru i Loegr ac o Loegr i Gymru.

"Gall hyn effeithio ar dwristiaeth - efallai y bydd rhai yn meddwl ddwywaith cyn dod i Gymru am y diwrnod."

A550

Dywedodd llefarydd ar ran Severn River Crossing plc, sy'n gyfrifol am y pontydd: "Rydym yn disgwyl y canlyniadau gyda diddordeb."

Mae ffigyrau diweddaraf yr Adran Drafnidiaeth a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn datgelu bod yr M4 wedi colli ei statws fel y ffordd brysuraf rhwng Cymru a Lloegr.

Bu cwymp o 7% yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r ffordd - y cwymp mwyaf i unrhyw brif ffordd dros y ffin.

Ond roedd mwy o gerbydau yn teithio o Loegr i Gymru dros y cyfnod, ac fe arweiniodd hynny at yr A550 o Sir y Fflint i Sir Caer yn cael ei enwi'r ffordd brysuraf.

Y tebygrwydd yw y bydd y tollau i groesi'r Hafren yn aros ar eu lefelau presennol yn dilyn cytundeb newydd gyda'r cwmni sy'n codi'r tal.

Cafodd Severn River Crossing wybod y cawn nhw rhedeg y ddwy bont tan eu bod wedi casglu £33m yn ychwanegol - hyd at £1.02 biliwn.

Mae disgwyl i'r pontydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus yn 2017, ac mae Aelodau Seneddol wedi dweud y dylai'r tollau gael eu cwtogi'n arw bryd hynny.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.