Morgannwg yn arwyddo van Jaarsveld

Martin Van Jaarsveld Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd van Jaarsveld naw gêm brawf i Dde Affrica rhwng 2002 a 2004

Mae Morgannwg wedi arwyddo'r batiwr profiadol o Dde Affrica, Martin van Jaarsveld, ar gyfer y gystadleuaeth 20 pelawd yr haf yma.

Ymddeolodd y chwaraewr 37 oed o griced y siroedd ym mis Tachwedd 2011 gan ddiddymu cytundeb gyda Sir Gaerlŷr wedi iddo adael Caint ddeufis ynghynt.

Dywedodd van Jaarsveld ei fod "wedi blino" gyda chriced ar lefel y siroedd.

Ers hynny, aeth ymlaen i arwain Nashua Titans i ennill y dwbl yn Ne Affrica.

Chwaraeodd van Jaarsveld naw gêm brawf i Dde Affrica rhwng 2002 a 2004, gan chwarae 11 o gemau undydd rhyngwladol dros yr un cyfnod.

Chwaraeodd hefyd i Sir Northants, Northern Transvaal a'r Northerns.

'Angerdd'

Mewn datganiad i gyhoeddi ei fod am ymuno gyda Morgannwg, dywedodd van Jaarsveld: "Mae tymor llwyddiannus iawn y Titans wedi ail gynnau fy angerdd at y gêm.

"Rwy'n mwynhau chwarae criced T20 ac fe fyddaf yn gweithio'n galed i gynorthwyo'r Dreigiau Cymreig i gyrraedd diwrnod y rowndiau terfynol, yn enwedig gan y bydd y rheini'n cael eu cynnal yn Stadiwm Swalec eleni."

Mae gan van Jaarsveld basport Prydeinig, sy'n gadael Morgannwg yn rhydd i arwyddo chwaraewr tramor arall ar gyfer y T20 ochr yn ochr â Marcus North.

Yng nghystadleuaeth T20 De Affrica eleni, sgoriodd van Jaarsveld gyfartaledd o 28, gan sgorio ar gyflymder o 156 am bob 100 pelen. Roedd hynny'n cynnwys batiad allweddol o 32 oddiar 21 pelen yn y rownd derfynol.

Dywedodd hyfforddwr Morgannwg, Matthew Mott: "Mae Martin yn gricedwr profiadol o safon sydd â record wych.

"Rydym wedi bod yn chwilio am bobl all ennill gemau er mwyn ein gwneud yn rym mwy pwerus, ac yn dilyn tymor llwyddiannus iawn yn Ne Affrica, mae Martin yn llenwi'r bwlch hwnnw'n berffaith."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.