Twitter: Arestio dyn arall

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae dyn o'r Rhyl wedi cael ei arestio ar ôl i enw dynes gafodd ei threisio gael ei gyhoeddi ar y we.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Llanelwy ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus.

Hyd yn hyn mae 13 wedi eu harestio yn y gogledd a Sir Efrog ers wythnos.

Mae wyth dyn a phedair dynes wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tan Orffennaf.

Cafodd enw'r ddynes ei ryddhau ar ôl i lys gael y pêl-droediwr Chad Evans yn euog o'i threisio mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddai mwy'n cael eu harestio.

Pum mlynedd

Cafodd Ched Evans, oedd yn chwarae i Sheffield United, ei garcharu am bum mlynedd am fod yn euog o dreisio'r ddynes 19 oed.

Y penwythnos ar ôl yr achos cafodd enw'r ddynes ei ryddhau ar wefan Twitter.

Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio neu'n diodde' o ymosodiadau rhywiol yr hawl i fod yn anhysbys am oes.

Mae Evans, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru, yn dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.