Morgannwg yn 100 am 2

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mewn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Essex o 259 roedd cricedwyr Morgannwg wedi cyrraedd 100 am 2 ar drydydd diwrnod y gêm bencampwriaeth yn Stadiwm Swalec pan y bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r chwarae oherwydd golau gwael.

Ni fu unrhyw chwarae ddydd Iau oherwydd glaw a golau gwael.

Ddydd Mercher fe wnaeth Alviro Petersen daro 145 o rediadau wrth i Essex ymladd yn ôl ar ôl dechreuad gwael yn erbyn Morgannwg.

Yn gynharach yn y gêm fe lwyddodd Morgannwg i gymryd wicedi Alistair Cook a Ravi Bopara - Cook yn sgorio naw tra i Bopara adael yn waglaw.

Roedd hynny'n gadael Essex ar 65-4.

Ond yna daeth batiad Petersen, llwyddodd o Mark Pettini (56) i ychwanegu 181, gyda'r ymwelwyr yn rhoi'r gorau i fatio ar 259-9.

Pencampwriaeth y Siroedd - Sgôr ddiweddaraf

Morgannwg v. Essex - Stadiwm Swalec, Caerdydd:-

Essex(batiad cyntaf) - 259 am 9 wiced

Morgannwg 100-2

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.