Jamie Jones allan

Jamie Jones Image copyright PA
Image caption Curodd Jones Shaun Murphy yn y rownd gyntaf

Er ymdrech arwrol yn ei flwyddyn gynta ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield, mae Jamie Jones o Gimla ger Castell-nedd allan.

Ali Carter oedd yn fuddugol o 13-11 yn rownd yr wyth olaf nos Fercher .

Bydd Carter yn herio Stephen Maguire yn y rownd gyn-derfynol.

Enillodd Jones gyfanswm o ychydig dros £27,000 y tymor diwethaf ar gylchdaith snwcer y byd - enillodd £24,000 am gyrraedd yr wyth olaf yn Sheffield!

Fore Mercher fe sicrhaodd Matthew Stevens ei le yn y rownd gynderfynol drwy guro Ryan Day o 13-5.

Fe fydd Stevens yn herio Ronnie O'Sullivan yn y rownd gyn-derfynol wedi i hwnnw guro Neil Robertson 13-10 nos Fercher.

Canlyniadau Dydd Mercher

Matthew Stevens 13-5 Ryan Day

Jamie Jones 11-13 Ali Carter

Straeon perthnasol