Diwrnod gwerin yn dychwelyd i Eisteddfod Llangollen

Frank Hennessy Image copyright BBC elvis
Image caption Bydd Frank Hennessy yn canu gyda'i fand The Hennessys

Bydd diwrnod o gerddoriaeth, dawns a chân Geltaidd yn rhan o raglen Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen eleni.

Bydd y canwr a darlledwr Frank Hennessy a'r grŵp Gwyddeleg Ioscaid ymhlith y rhai bydd yn perfformio.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd yr eisteddfod: "Dwi'n meddwl bod adfywiad mewn cerddoriaeth gwerin wedi digwydd yn ddiweddar ac rydym yn gweld cynnydd yn ei boblogrwydd ymhlith cynulleidfaoedd newydd ac ifancach yn arbennig.

"Dwi'n meddwl bod hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth gwerin yn parhau i fod yn rhan o'n treftadaeth ond hefyd yn dangos ei fod yn gallu addasu a denu dilynwyr newydd."

Bydd artistiaid Cymreig yn cynnwys Siôn Russell Jones, cerddorfa gwerin Calan a'r grŵp Adran D.

Ymhlith y perfformiadau eraill bydd grŵp o Gernyw, Rum and Shrub Shantymen, yn canu canueon traddodiadol a siantis môr.

Image caption Mae perfformwyr yn dod i Langollen o bob cwr o'r byd

Yn ogystal â pherfformiadau ar brif lwyfan allanol maes yr eisteddfod bydd yna hefyd gyngerdd yng ngorsaf rheilffordd Llangollen.

Bydd hefyd llwyfan 'meic agored' lle fydd cyfle i berfformwyr lleol ddiddanu'r gynulleidfa.

Mae Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen 2012 yn dechrau ar Orffennaf 3.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.