Is-etholiad ym Mryncrug i benderfynu dyfodol Cyngor Gwynedd

Bydd isetholiad yn cael ei gynnal ym mhentref Bryncrug i benderfynu pwy fydd yn rheoli Cyngor Gwynedd.

Collodd Plaid Cymru reolaeth lwyr o'r cyngor am eu bod wedi ennill dim ond 37 o 75 sedd ddydd Gwener.

Ni chafodd etholiad ei gynnal ym Mryncrug ger Tywyn am na safodd yr un ymgeisydd.

Canlyniad Gwynedd

Plaid Cymru 37

Annibynnol 18

Llais Gwynedd 13

Llafur 4

Democratiaid Rhyddfrydol 2

Ceidwadwyr 0

Doedd 'na ddim etholiad ar Ynys Môn gan fod hwnnw wedi ei ohirio am flwyddyn wrth i Gomisiynwyr geisio rhoi trefn ar y sir.

Does gan yr un grwp reolaeth dros Gyngor Conwy, roedd yna ychydig o gysur yma i'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth iddynt lwyddo i ddal eu gafael ar eu pump sedd.

Canlyniad Conwy:

  • Eraill 19
  • Ceidwadwyr 13
  • Plaid Cymru 12
  • Llafur 10
  • Democratiaid Rhyddfrydol 5