Cross Keys 32-19

Cwpan Swalec

Mae Cross Keys wedi ennill Cwpan Swalec am y tro cyntaf yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Pontypridd yn Stadiwm Y Mileniwm.

Mewn gêm gystadleuol, Cross Keys oedd yn fuddugol o 32-19.

Roedd rhai wedi ystyried Cross Keys yn ffodus o fod yn y rownd derfynol o gwbl.

Fe gawson nhw fuddugoliaeth o 10-9 yn yr ail rownd yn erbyn Bedwas, ac yn y rownd gynderfynol, fe gawson nhw gêm gyfartal yn erbyn Glyn Ebwy, ond fe enillon nhw gan iddyn nhw sgorio dau gais i un Glyn Ebwy.

Yn y rownd derfynol, Pontypridd aeth ar y blaen yn gynnar cyn i Cross Keys ddod yn ôl gyda tri chais a chicio cywir i ennill y Cwpan.

Nid yn unig dyma'r tro cyntaf i Cross Keys ennill Cwpan Cymru, ond dyma'r tlws cyntaf i'r clwb ennill yn eu hanes.

Hefyd fe wnaeth Penallta o Ail Adran y Dwyrain ennill Plat Swalec 21-15 yn erbyn Nant Conwy o Adran Gyntaf y Gogledd.

Glyncoch o Adran Chwch Canolg enillodd y bowlen 16-13 dros Dredegar newydd o Adran Pedwar y Dwyrain.