Ronnie O'Sullivan yw Pencampwr Snwcer y Byd

Ronnie O'Sullivan Image copyright PA
Image caption Dyma'r pedwerydd tro i Ronnie O'Sullivan ennill y bencampwriaeth

Ronnie O'Sullivan yw Pencampwr Snwcer y Byd am y pedwerydd tro ar ôl curo Ali Carter 18-11 nos Lun.

Roedd O'Sullivan 10-7 ar y blaen ar ddechrau'r ail ddiwrnod ac fe enillodd y bedair ffrâm cyntaf, gan gynnwys rhediad cyflym o 101, ei 12fed rhediad dros 100 yn ystod y bencampwriaeth.

Roedd Carter, gurodd Stephen Maguire yn y rownd gynderfynol, yn edrych fel ei fod wedi colli'r gêm y pryd hynny cyn dod yn ei ôl i sicrhau bod y gêm yn mynd i'r sesiwn olaf wedi'r egwyl.

Llwyddodd Carter i ennill tair ffrâm wedi'r egwyl ond dim ond un arall y llwyddodd i'w hennill yn y sesiwn olaf.

Fe wnaeth O'Sullivan, 36 oed, sicrhau'r ddwy ffrâm oedd eu hangen i ennill ei bedwerydd buddugoliaeth.

Pedwar

Dim ond pedwar o chwaraewyr snwcer eraill sydd wedi ennill pedair neu fwy o bencampwriaethau byd yn yr oes fodern, John Higgins (4); Steve Davis (6); Ray Reardon (6) a Stephen Hendry (7).

Roedd O'Sullivan wedi awgrymu ar ôl y rownd gynderfynol, enillodd yn erbyn y Cymro Matthew Stevens, y gallai ymddeol.

Ond wedi'r fuddugoliaeth yn y Crucible yn Sheffield fe ddywedodd y byddai'n cymryd chwe mis o seibiant o'r gêm.

"Fe fyddai'n gwneud penderfyniad pan fyddai'n barod.

"Dwi'n mynd i fwynhau'r amser i ffwrdd gyda'r teulu."

Dywedodd Carter gyda'i dafod yn ei foch na fyddai'n ennill y bencampwriaeth tan i O'Sullivan ymddeol.

Mae Carter wedi bod yn y rownd derfynol ddwywaith - ac wedi colli ddwywaith i O'Sullivan.

Enillodd O'Sullivan y bencampwriaeth yn 2001, 2004 a 2008.

Ef yw'r chwaraewr hynaf i ennill y bencampwriaeth ers i'r Cymro Ray Reardon gipio ei chweched teitl yn 1978 yn 45 oed.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.