Picnic a chystadleuaethau i gyfoethogi'r diwylliant bwyd

Pabell Gwir Flas
Image caption Mae'r trefnwyr yn galw am atgofion eisteddfodwyr o wahanol ddanteithion

Mae dau sefydliad wedi dod at ei gilydd i alw ar Eisteddfodwyr am eu hatgofion am fwyd.

Bwyd drwy'r oesoedd yw thema Casgliad y Werin ar faes yr Eisteddfod.

A dydd Gwener bydd nifer gystadlaethau yn ymwneud a bwyd ym Mhabell Gwir Flas Cymru.

Mae modd i eisteddfodwyr anfon rysetiau ac atgofion at y Casgliad yn ogystal â'u cynnyrch hefyd.

Fe fydd 'na bicnic mawreddog ar y Maes dydd Iau ac mae 'na alw am eitemau amrywiol fel y bydd pawb yn gallu rhannu'r bwyd a mwynhau trafod y cynnyrch.

Image caption Mae 'na arddangosfeydd bwyd ar gael yn ogystal

Bydd Casgliad y Werin Cymru yn rhannu hanes a phrofiad pobl ar y we.

"Mae 'na wahanol themâu ar fwyd ganddo ni yn ystod yr wythnos, o ddathliadau, y cynhaeaf, dogni bwyd, picnic a chystadlu," meddai Rheinallt Williams o Gasgliad y Werin.

"Mae lluniau o fwyd yn cael ei baratoi neu ei fwyta ac arddangosfa aml gyfrwng ar y wefan a hynny ar draws y canrifoedd."

Ar gyfer y cystadlu ddydd Gwener mae'r trefnwyr yn gofyn i gogyddion amatur o bob cwr o Gymru i ddod â'u danteithion cartref, popeth o Fara Brith, Cacenni Cri, sbwng Fictoria a jam a gwin i selsig Morgannwg.

Yn ystod yr wythnos hefyd mae'r cogydd Nerys Howell yn coginio ryseitiau sydd wedi dod i lawr o gacenni tatws a gafodd eu hysbrydoli gan ddogni'r Ail Ryfel Byd.

"Y bwriad yw cyfoethogi ein diwylliant bwyd ac i greu bwrlwm yn y maes.

"Byddwn yn creu cacen finegr gan fod wyau yn brin roedden nhw'n defnyddio finegr.

"Fe fyddwn ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth a'i cawl neu lobsgóws yw'r gorau."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.