Arian mewn til
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Siop cynnyrch lleol newydd yn agor ym Mhen Llŷn

10 Mai 2012 Diweddarwyd 06:59 BST

Mae hi'n gwyn barhaus yng nghefn gwlad fod siopau bach yn cau am eu bod nhw yn methu cystadlu a'r archfarchnadoedd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae rhyw 40 o siopau bach wedi cau ym Mhen Llŷn.

Ond mae siop newydd yn agor ym mhentref Botwnnog.

Cymunedau'n Gyntaf Llŷn sydd y tu ôl i'r fenter.

Y bwriad ydi gwerthu cynnyrch o Lŷn un unig, boed yn grefftau neu, yn y dyfodol agos, fwydydd hefyd.

Adroddiad Alun Rhys.