Canolfan cymorth canser yn agor ym Mhont-y-pŵl

Mae canolfan cymorth ar gyfer yr elusen ganser Marie Curie yn cael ei hagor yn ddiweddarach.

Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, sy'n cyfarfod â staff yn y ganolfan ym Mhont-y-pŵl lle mae 140 o swyddi newydd wedi eu creu.

Bydd 33 o wirfoddolwyr yn gweithio yno hefyd.

Hon fydd prif ganolfan yr elusen yn y Deyrnas Unedig ar gyfer codi arian, gwirfoddoli a gweithredoedd nyrsio.

Bydd yn cynnig cymorth i nyrsys a chefnogaeth i'r rheiny sy'n codi arian i'r elusen.

'Cyfleoedd'

Dywedodd y prif weithredwr, Thomas Hughes-Hallett: "Mae gan y dre lawer i' gynnig ac rydyn ni'n falch i allu creu cyfleoedd gwaith newydd i bobl leol.

"Mae'r gallu i recriwtio pobl leol ar gyfer swyddi allweddol - a'r swyddfeydd da - yn golygu bod yr ardal hon yn ddewis delfrydol ar gyfer ein canolfan Brydeinig.

"Ac mae'r galw am ein gwasanaethau yn dal i gynyddu. Felly mae canoli gweinyddu'r elusen yn y modd hwn yn golygu bod ein staff rheng flaen yn gallu canolbwyntio ar eu gwaith craidd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.