Archesgob Cymru ar banel dewis

Archesgob Cymru
Image caption Dywedodd Archesgob Cymru ei bod yn anrhydedd i gael ei ethol

Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi ei ethol i'r comisiwn fydd yn dewis Archesgob newydd Caergaint.

Aelodau'r pwyllgor sefydlog a'i ethodd i wasanaethu ar Gomisiwn Enwebiadau'r Goron a fe yw'r Archesgob cyntaf o'r Gymuned Anglicanaidd i gael gwahoddiad o'r fath.

Un archesgob oedd yn cael ei ethol ac fe bleidleisiodd y pwyllgor drwy'r sustem bleidlais drosglwyddadwy gafodd ei goruchwylio gan gadeirydd y pwyllgor.

Dywedodd Dr Morgan: "Mae'n anrhydedd i gael fy ethol gan y pwyllgor sefydlog ac rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli eu buddiannau wrth benodi'r archesgob."

Bydd Archesgob Caergaint yn cael ei ethol wedi i Gymro arall, Dr Rowan Williams, adael y swydd yn gynharach eleni.

Straeon perthnasol