Heddlu Sbaen yn ymchwilio i farwolaeth Cymro

Estepona, Sbaen Image copyright other
Image caption Estepona, Sbaen

Mae Heddlu Sbaen yn ymchwilio i farwolaeth Cymro 72 oed.

Cafwyd hyd i gorff Denis Manley o Gasnewydd yn arnofio ym Marina Estepona ger Gibraltar ddydd Mercher.

Roedd wedi bod yn aros ar ei gwch hwylio.

Deellir iddo gael anafiadau i'w ben a chred yr heddlu ei fod wedi baglu ar y cwch cyn taro ei ben a syrthio i'r môr.