Peter Hain yn gadael cabinet yr wrthblaid

Daeth cadarnhad fod cyn Ysgrifennydd Cymru Peter Hain yn gadael mainc flaen y blaid Lafur fel eu llefarydd ar Gymru.

Wedi 16 mlynedd, dywedodd ei fod eisiau canolbwyntio ar brosiectau fel Affrica ac ymgyrchu am forglawdd ar draws Afon Hafren.

Yn ôl Mr Hain, gallai gwireddu'r cynllun ddod â degau o filoedd o swyddi i Gymru, yn ogystal â sicrhau'r cyflenwad mwya' o ynni adnewyddol yn Ewrop.

Mewn llythyr at arweinydd yr wrthblaid, Ed Miliband, dywedodd Mr Hain ei fod yn bwriadu parhau fel Aelod Seneddol ac y bydd yn ymgeisio eto yn yr Etholiad Cyffredinol nesa'.

Ond ychwanegodd fod cryfder perfformiad Llafur yn yr etholiadau lleol diweddar yng Nghymru yn cynnig cyfle addas i gamu'n ôl.

'Arwydd o hyder'

Ysgrifennodd at Mr Miliband fod y canlyniadau "wedi bod yn arwydd o hyder yng ngweledigaeth Llafur ar gyfer y wlad ac i chi'n bersonol".

"Ond, fel y eglurais yn ein cyfarfod yn y Nadolig, rwyf wedi bod eisiau edrych ar gyfleoedd eraill ers sbel nawr ac rwyf fell yn ymddiswyddo fel llefarydd y blaid ar Gymru er mwyn canolbwyntio ar ddwy her newydd," ychwanegodd.

Bu Mr Hain, sy'n Aelod Seneddol dros Gastell-nedd, hefyd yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon pan oedd y llywodraeth Lafur ddiwetha' mewn grym.

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Milliband: "Mae Peter Hain wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r fainc flaen dros yr 16 mlynedd diwetha'.

"Mae wedi gweithio'n galed iawn dros Gymru dros y tair blynedd diwetha' fel Ysgrifennydd Cymru a llefarydd y blaid ar Gymru.

'Sgiliau gwych'

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC: "Mae Peter wedi chwarae rhan bwysig ac amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru ers blynyddoedd lawer.

"Rwy'n sicr, beth bynnag mae Peter yn ddewis ei wneud tu hwnt i'r fainc flaen a San Steffan, y bydd yn defnyddio'i sgiliau gwych fel cyfathrebwr ac ymgyrchydd."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan: "Mae Peter Hain wedi cael gyrfa hir a llewyrchus mewn sawl adran. Rydym wedi gweithio ochr yn ochr ers blynyddoedd yn Swyddfa Cymru a'r Swyddfa Dramor.

"Er gwaetha' ein gwahaniaethau gwleidyddol, rwy'n gwybod ein bod yn rhannu'r un nod o gyflawni'r gorau i Gymru."

Yn ôl Mr Hain, fyddai o ddim yn diystyru dychwelyd i'r cabinet petai'n cael cyfle yn y dyfodol.