Heddlu'n apelio wedi gwrthdrawiad

Map o'r ardal

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i wrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Rhondda Cynon Taf brynhawn Sadwrn.

Cafodd gyrrwr y beic modur - dyn 58 oed o Donypandy - anafiadau difrifol, ac mae mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Audi lliw arian a beic Kawasaki oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall ar yr A4059 rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Benderyn tua 4:35pm.

Ni chafodd y rhai oedd yn teithio yn y car eu hanafu.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu'r modd yr oedd y ddau gerbyd yn cael eu gyrru ychydig cyn y gwrthdrawiad, i ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.