Howley'n enwi pedwar sydd heb gap

Rob Howley
Image caption Mae Rob Howley wedi rhoi cyfle i sawl enw newydd

Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Rob Howley, wedi enwi pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap yn ei garfan o 38 ar gyfer y gêm yn erbyn y Barbariaid ar Fehefin 2 cyn gadael am daith i Awstralia.

Cefnwr y Scarlets, Liam Williams, a'r prop Rhodri Jones, canolwr y Gweilch Ashley Beck ac asgellwr y Gleision Harry Robinson yw'r pedwar, er eu bod i gyd wedi cael eu henwi yn y garfan yn flaenorol.

Mae nifer o chwaraewyr eraill yn y garfan oedd ddim yn rhan o garfan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gan gynnwys Martin Williams, allai ennill ei 100fed cap yn erbyn y Barbariaid.

Y lleill sy'n dychwelyd i'r garfan ar ôl cyfnod allan yw'r maswr Dan Biggar a'i gyd-Walch y canolwr Andrew Bishop, blaenasgellwr y Scarlets Josh Turnbull ac asgellwyr y Dreigiau Aled Brew a Will Harries.

Cefnogaeth

Wrth gyhoeddi'r garfan, dywedodd Rob Howley:

"Bydd y Gweilch yn cael ein cefnogaeth lawn wrth geisio ennill rownd derfynol y Pro12 ymhen pythefnos, felly fyddwn ni ddim yn gofyn iddyn nhw ymuno â'r garfan am wythnos ychwanegol.

"Rydym wedi ceisio am gysondeb gyda gweddill y garfan, a mater i'r chwaraewyr nawr yw parhau gyda gwaith da'r Chwe Gwlad a phrofi i ni eu bod yn haeddu eu lle ar yr awyren i Awstralia.

"Y newyddion da yw ein bod yn gwybod y bydd Mike Phillips a James Hook gyda ni o'r dechrau, mae Sam Warburton yn edrych fel y bydd yn iawn, ac rydym yn hyderus y bydd Scott Williams a Jonathan Davies yn holliach ac yn medru chwarae rhan ar y daith."

Mae clwb Lee Byrne, Clermont Auvergne, yn dal yn rhan o rownd derfynol cystadleuaeth clybiau Ffrainc, ond mae wedi ei enwi fel un o'r chwaraewyr wrth gefn ar gyfer y daith.

Nid yw Jamie Roberts na Huw Bennett wedi gwella o anafiadau.

Carfan Ymarfer Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Y Barbariaid a thaith yr haf i Awstralia :-

Blaenwyr :-

Ryan Bevington (Gweilch), Luke Charteris (Dreigiau), Ian Evans (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Rhys Gill (Saracens), Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Ryan Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Ken Owens (Scarlets), Matthew Rees (Scarlets), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch) Josh Turnbull (Scarlets), Sam Warburton (Gleision - capten), Martyn Williams (Gleision);

Olwyr :-

Ashley Beck (Gweilch), Dan Biggar (Gweilch), Anderew Bishop (Gweilch), Aled Brew (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), Will Harries (Dreigiau), James Hook (Perpignan), Geirge North (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne), Rhys Priestland (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).