Cyngor: Camgyfri’ pleidleisiau yng ngogledd Prestatyn

  • 16 Mai 2012
Blwch pleidleisio
Mae wedi dod i'r amlwg fod rhai o'r pleidleisiau wedi eu camgyfri.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymddiheuro ar ôl i nifer o bleidleisiau ymgeisydd Llafur yn yr etholiad lleol gael eu cofnodi ar gyfer ymgeisydd Ceidwadol â chyfenw tebyg.

Cafodd y Ceidwadwr Allan Pennington 580 o bleidleisiau yn un o dair sedd Gogledd Prestatyn ac etholwyd e'n gynghorydd sir.

Nodwyd fod yr ymgeisydd Llafur Paul Penlington yn aflwyddiannus a'i fod wedi derbyn 366 o bleidleisiau.

Ond mae wedi dod i'r amlwg fod rhai o'r pleidleisiau wedi eu cam-gyfri.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor, pe bai'r pleidleisiau wedi eu dosbarthu yn gywir byddai Mr Penlington wedi ennill y sedd i'r Blaid Lafur.

Byddai wedi derbyn 605 o bleidleisiau o'i gymharu â 340 i Mr Pennington.

Mae gan Lafur tan ddydd Iau nesa' i benderfynu a ddylid herio'r canlyniad gerbron barnwr.

Ymddiheuro

Llafur enillodd y ddwy sedd arall yng Ngogledd Prestatyn.

Mae Swyddog Etholiad Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet, wedi dweud: "Ar ran y cyngor rwy wedi ymddiheuro i'r ddau asiant.

"Rydym wedi ymchwilio i'r digwyddiad pan ddaeth i'n sylw.

"Byddwn yn ailedrych ar ein trefniadau er mwyn asesu a oes modd eu tynhau ymhellach."

Cafodd Mr Pennington ei ethol yn gynghorydd sir y tro cyntaf yn 2008.

"Mae'n ddrwg gennyf ond alla i ddim gwneud sylw," meddai Mr Pennington.

"Nid fy mai i yw hyn.

"Bydd rhaid i chi siarad â'r cyngor sir."

Gwnaed cais i'r Blaid Lafur am sylw.