Carchar am oes i ddau am losgi dyn yn fyw

Ramunas Raulinautis Image copyright Other
Image caption Cafwyd hyd i Ramunas Raulinautis ar dân y tu allan i westy yng Nghasnewydd

Cafodd dau ddyn eu carcharu am oes am lofruddio cyn-gyfaill drwy ei roi ar dân.

Fe wnaeth Pawel Lysonik, 22 oed a Kamil Semrau, 28 oed - y ddau yn wreiddiol o Wlad Pwyl ond yn byw yng Nghasnewydd - ladd y dyn ar ôl ei guro'n ddidrugaredd, dodi papur y tu mewn i'w ddillad a'i roi ar dân.

Daeth cerddwr o hyd i Ramunas Raulinautis, 34 oed, y tu allan i westy yng Nghasnewydd ac fe'i cludwyd i'r ysbyty ym mis Mawrth 2011.

Ond roedd wedi dioddef llosgiadau i 60% o'i gorff a bu farw o'i anafiadau dridiau yn ddiweddarach.

Yn Llys y Goron Caerdydd roedd Lysonik a Semrau wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Bydd rhaid i Lysonik dreulio lleiafswm o 36 mlynedd dan glo, a Semrau 30 o flynyddoedd.

'Poen dirfawr'

Dywedodd y Barnwr Mr Ustus Roderick Evans: "Dyma lofruddiaeth aruthrol o dreisgar mewn gwaed oer ac mae'n rhaid eich bod wedi achosi dioddefaint dychrynllyd i'r dyn.

"Er iddo gael ei guro, roedd ei gorff wedi llosgi i'r fath raddau fel nad oedd modd i batholegydd weld yr holl anafiadau.

"Yna fe roddwyd papur yn ei ddillad cyn ei roi ar dân - hyd yn oed yn ei gyflwr truenus mae'n rhaid ei fod mewn poen dirfawr."

Fe gafwyd dau ddyn arall o Wlad Pwyl yn ddieuog o lofruddiaeth wedi i'r rheithgor benderfynu eu bod wedi curo'r dyn ond heb ei roi ar dân.

Ond cafodd Lukas Kalkowski, 30 oed, a Stanislaw Gliszczynski, 31 oed, eu carcharu am 17 mlynedd am eu bod yn euog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Straeon perthnasol