Buddsoddiad o £125m yn diogelu swyddi Vauxhall

Ffatri Vauxhall Ellesmere Port Image copyright Getty Images
Image caption Roedd 'na bryder y byddai ffatri Ellesmere Port yn cau

Mae swyddi miloedd o weithwyr yn ffatri geir Vauxhall yn Ellesmere Port wedi cael eu diogelu.

Cyhoeddodd y perchnogion General Motors y byddai'r Astra newydd yn cael ei gynhyrchu yno.

Mae 2,100 o bobl yn gweithio yno, gyda mwy na 350 o ogledd Cymru yn gweithio yn y ffatri yn Sir Gaer.

Y disgwyl yw y bydd o leiaf 160,000 o'r Astra yn cael eu hadeiladu'n flynyddol.

Mae GM yn buddsoddi £125 miliwn yn y ffatri gan ychwanegu y bydd hyd at £1 biliwn yn cael ei wario yn y gadwyn gynhyrchu yn y DU.

Roedd 'na bryder y byddai'r gwaith yn cau o ganlyniad i gynlluniau ailstrwythuro GM.

Ond mae disgwyl i tua 700 o swyddi newydd gal eu creu yn y ffatri o ganlyniad i'r cyhoeddiad yn ogystal â channoedd yn y gadwyn gyflenwi.

Dywedodd cadeirydd Vauxhall, Duncan Aldred, bod hi'n "ddiwrnod hanesyddol".

"Mae'n ddiwrnod da iawn i ffatri Ellesmere Port, i'n cyflogwyr, i'r gymuned leol, ein cyflenwyr, i frand Vauxhall ac i'r DU."

2015

Daw'r cyhoeddiad ar ôl pleidlais gan staff Vauxhall oedd o blaid derbyn cytundeb cyflog a thelerau newydd.

Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Vince Cable, wedi dweud wrth y BBC na chafodd unrhyw gymhelliad ariannol eu cynnig i GM.

Mewn ymateb fe ddywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, bod hwn yn newyddion da iawn.

"I'r economi ac i'r gweithwyr o ogledd Cymru sy'n teithio'n ddyddiol i Ellesmere Port.

"Mae'r newyddion yn dust i sgiliau'r gweithwyr gwych ac mae'n dangos sut mae'r Llywodraeth yn cynorthwyo i greu'r awyrgylch cywir ar gyfer y diwydiant.

"Mae hefyd yn arwydd arall bod y sector cynhyrchu ceir yn y DU yn llwyddo."

Caiff 47 o geir eu cynhyrchu yr awr dros ddwy shifft bob dydd yn Ellesmere Port.

Mae'r cytundeb ar gyfer yr Astra newydd yn cychwyn yn 2013 ac wedi ei sicrhau tan 2020au.

Y disgwyl yw y bydd y car newydd ar gael yn 2015.

Mae Vauxhall wedi bod yn cynhyrchu ceir yn y DU ers 1903.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.