Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod yr Urdd 2012 i'r Pwyllgor Gwaith

Cafodd Coron a Chadair Eisteddfod yr Urdd 2012 eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl yn Eryri mewn digwyddiad arbennig yng Nghaernarfon nos Iau.

Daw hyn wythnosau yn unig cyn i'r Eisteddfod gael ei chynnal ym Mharc Glynllifon, Caernarfon.

Mae'r Goron eleni wedi ei gwneud gan grefftwr profiadol sydd wedi llunio sawl Coron, John Price o Fachynlleth.

Ond dyma'r Goron gyntaf iddo ei chreu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Mae wedi ei ddylanwadu gan dirwedd fynyddig Eryri a'r traddodiad glan môr.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n cyflwyno'r Goron i'r Urdd eleni.

'Gwefr'

"Dwi wedi creu ymhell dros 100 o goronau dros y blynyddoedd, i amryw o Eisteddfodau, gan gynnwys Eisteddfod Llandegfan, Eisteddfod Môn, Eisteddfod Powys a'r Genedlaethol.

"Hobi llwyr ydi hi i mi, ond dwi'n cael pleser mawr yn y gweithdy.

Image copyright Urdd
Image caption Cafodd y Gadair ei gwneud o dderw

"Mae hi'n wefr cael cynllunio Coron i brifwyl ieuenctid yr Urdd, a dwi'n mawr obeithio y bydd enillydd i fynd o dan y goron ymhen ychydig wythnosau yng Nglynllifon!" meddai.

Cafodd y Gadair ei gwneud gan Llewelyn Wyn Jones o Rosfawr ger Pwllheli o goeden derw lleol.

Mae ef wedi disgrifio'r Gadair fel "cadair blaen, ddefnyddiol, gyda llechen o Ddyffryn Nantlle wedi ei gosod mewn panel yng nghefn ucha'r gadair".

Roedd cynnwys y llechen yn bwysig i'r teulu sy'n cyflwyno'r Gadair gan fod llinach y teulu o'r ddwy ochr yn deillio o Ddyffryn Nantlle.

O dan y llechen sydd â'r llinell wyrddlas nodweddiadol yn rhedeg drwyddi, mae cerfiad cywrain o lwybr a choed, yn adlewyrchu ysblander y Lôn Goed, sydd dafliad carreg o gartref y teulu sy'n cyflwyno'r Gadair.

"Dwi wedi creu nifer o gadeiriau llai i eisteddfodau bach fel Eisteddfod Ffôr a Chwilog, ac mae gen i ddegau o stolion bach pren ar gyfer achlysuron arbennig yn y gweithdy," meddai'r crefftwr.

'Braint'

"Mae hi'n fraint fawr cael creu cadair i Eisteddfod fawr fel hon ar ein stepan drws.

"Mae'n Gadair lydan gyda dwy fraich a'r ddwy goes flaen wedi ei thurnio.

"Mae 'na dro ar flaen y gadair ac mae'r cefn yn gorwedd yn ôl fymryn."

Dywedodd mai wythnos dda gymrodd iddo ei chreu ac fel Mr Price, dyma'r tro cyntaf iddo greu Cadair i Eisteddfod yr Urdd ac mae'n gobeithio am deilyngdod.

"Mae hi wastad yn fraint cael gweld y Gadair am y tro cyntaf, a dyw eleni'n ddim gwahanol," meddai Aled Siôn.

"Mae'n wefr gwybod bod crefftwr fel Llew wedi gweithio'n ddygn arni.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac i John Price am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i gystadleuaeth y Goron eleni. "

"Mae cydweithio agos wedi bod rhyngddynt wrth ddylunio a datblygu'r Goron, ac mae'r gwaith gorffenedig yn werth ei weld.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad ac i Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans am eu nawdd ar gyfer y ddwy seremoni."

Caiff y Goron ei rhoi am greu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema 'Egin.' Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Catrin Dafydd a Meg Elis.

Mae'r Gadair yn cael ei rhoi am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd ar y testun 'Cylchoedd'. Y beirniaid yw Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.