Sigurdsson: Abertawe'n dechrau trafod

Gylfi Sigurdsson Image copyright Getty Images
Image caption Bu Gulfi Sigurdsson ar fenthyg gydag Abertawe y tymor diwethaf

Bydd cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins, yn cwrdd wyneb yn wyneb gyda phenaethiaid clwb Hoffenheim yn yr Almaen er mwyn ceisio arwyddo Gulfi Sigurdsson yn barhaol.

Bu'r chwaraewr canol cae o Wlad yr Iâ ar fenthyg yn Stadiwm Liberty ers mis Ionawr tan ddiwedd y tymor.

Sgoriodd y chwaraewr 22 oed saith o goliau mewn 17 gêm i Abertawe.

Symudodd Sigurdsson i Hoffenheim o Reading - cyn glwb rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers - am £6.5 miliwn yn 2010.

Gwrthododd yr Almaenwyr gynnig gwreiddiol Abertawe o tua £4m, a'r gred yw bod clwb y Bundesliga yn debygol o fod am gael eu harian yn ôl am Sigurdsson.

Am eu bod wedi gorffen yn yr 11eg safle yn eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair, ef gafodd Abertawe £45.9 miliwn o wobr o arian darlledu, felly mae arian ar gael i gryfhau'r garfan.

Dywedodd Sigurdsson ym mis Ebrill y byddai'n hapus i aros gydag Abertawe y tu hwnt i ddiwedd y tymor.

Ond mae Mr Jenkins wedi cyfaddef y bydd hi'n anodd i'r clwb o Gymru ddal eu gafael arno yn barhaol.