Ymchwiliad i dân mewn fflat yng Nghaerdydd

Mae fflat yng Nghaerdydd wedi cael ei ddifrodi yn llwyr ar ôl tân yno yn gynnar bore Sadwrn.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r fflat llawr cyntaf yn Princes Court, Richmond Crescent, Y Rhath, yn fuan wedi hanner nos.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod achos y tan yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i adeilad yn Bryntaf, Aberfan am 2.20am ddydd Sadwrn.

Cafodd un oedolyn ei achub o'r tân a gychwynnodd yn ddamweiniol yn yr ystafell wely.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.