Achos Gallt Melyd: Diffynnydd yn gwadu cyffesu

Gabor Sarkozi Image copyright Daily Post
Image caption Bu farw Gabor Sarkozi ar ôl ymosodiad ar Hydref 18 y llynedd

Mae dyn wedi gwadu iddo gyffesu wrth ei gariad ar y ffôn ei fod wedi llofruddio gyrrwr.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae James Siree, 22 oed, a'i wncwl 42 oed, Gary Bland, y ddau o'r Rhyl, wedi gwadu llofruddio Gabor Sarkozi oedd yn gweithio i fwyty Happy Garden yng Ngallt Melyd ger Prestatyn.

Dywedodd Mr Siree wrth y llys nad oedd wedi ymosod ar Mr Sarkozi.

Ond mae'r erlyniad wedi honni bod y ddau wedi ymosod arno ddwywaith, ei bwnio, ei gicio a sathru arno.

Roedd yr ymosodiad ar y dyn 38 oed o dras Hwngaraidd ar Hydref 18.

Helpu

Wrth i achos yr amddiffyn ddechrau, dywedodd Mr Siree ei fod e a'i wncwl wedi helpu Mr Sarkozi am ei fod wedi ei anafu.

Gofynnodd Gordon Cole QC, ar ran yr amddiffyn, beth yr oedd wedi ei ddweud wrth ei gariad ar y ffôn.

"Mi ddywedais i fod gwaed ar f'esgidiau ond doedd dim angen poeni ... mi oedden ni wedi helpu dyn o Hwngari."

Pan ffoniodd hi'n ôl roedd ei wncwl yn dal ei ben yn dynn.

Gofynnodd Mr Cole a gyfeiriodd at lofruddio ar y ffôn.

Dywedodd Mr Siree ei fod wedi dweud wrth ei wncwl ei fod yn ysu am sigarét marijuana.

Mae'r achos gerbron Mr Ustus Griffith Williams yn parhau.

Straeon perthnasol