Hwyaid bach yn cael eu hachub o lyn ger Wrecsam

Hwyaid bach Image copyright RSPCA
Image caption Nid yw mam yr hwyaid bach wedi cael ei gweld ers dydd Sul

Mae teulu o hwyaid bach wedi cael ei achub o lyn gan y RSPCA wedi i'w mam eu gadael.

Roedd hi'n ymddangos nad oedd unrhyw hwyaid aeddfed gyda'r 11 hwyaid bach gwyllt ym mharc gwledig Stryt Las yn Johnstown, ger Wrecsam.

Sylwodd aelod o'r cyhoedd oedd wedi bod yn dilyn datblygiad yr hwyaid bach, fod eu mam wedi eu gadael ddydd Sul.

Mae'r hwyaid bach yn awr yng nghanolfan bywyd gwyllt Stapeley Grange yn Sir Gaer lle byddant yn aros nes eu bod yn ddigon hen i edrych ar ôl eu hunain.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod yn ansicr beth oedd wedi digwydd i'r fam ond mae'n debyg y byddai wedi dychwelyd i'w hwyaid bach petai hynny'n bosib.

Cafodd yr hwyaid bach eu dal gan arolygydd yr RSPCA, Kia Thomas, ceidwad parc Cyngor Wrecsam a myfyriwr oedd yno ar brofiad gwaith.

Dywedodd Ms Thomas: "Nid yw hwyaid bach yn cael eu bwydo gan eu mamau ond mae angen eu hamddiffyn rhag ysglyfaethwyr felly bu'n rhaid inni weithredu yn yr achos hwn."

Mae'r elusen yn apelio at unrhyw un gyda gwybodaeth am y fam i gysylltu â nhw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.