Edrych y tu mewn i gartrefi Cymru yng Ngheredigion

Y tu mewn i Dŷ Nantclwyd, Rhuthun, 1954 Image copyright Amgueddfa Ceredigion
Image caption Bydd y delweddau'n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd

Bydd arddangosfa newydd o ddelweddau o archif y Comisiwn Brenhinol yn rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser.

I gyd-fynd â'r arddangosfa, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi llyfr newydd, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, a fydd yn cynnwys oddeutu 200 o ddelweddau allweddol o'i archif.

Bydd yr arddangosfa yn agor i'r cyhoedd yn Amgueddfa Ceredigion ddydd Sadwrn am chwe wythnos, a bydd wedyn yn teithio i amgueddfeydd eraill ar hyd a lled Cymru.

Bydd yr arddangosfa'n rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser, gan ddefnyddio delweddau wedi'u hatgynhyrchu o negatifau a phrintiau a gedwir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (archif y Comisiwn) yn Aberystwyth.

Deunyddiau domestig

Bydd y delweddau'n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd, o fythynnod tlawd i blastai gwledig crand.

Byddant yn cael eu harddangos ochr yn ochr ag eitemau o gasgliadau helaeth Amgueddfa Ceredigion o wrthrychau a deunyddiau domestig.

Cynhaliwyd arddangosiad preifat Ddydd Gwener a bydd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd o Ddydd Sadwrn 26 Mai hyd Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf.

Bydd sgwrs am yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn oriel yr amgueddfa ar 1 Mehefin am 1pm.

Cynhelir digwyddiad Casgliad y Werin ar Orffennaf 7 pryd y gwahoddir y cyhoedd i ddod â'u gwrthrychau, eu ffotograffau a'u storïau eu hunain er mwyn darganfod, dysgu, cyfrannu a rhannu eu stori hwy am Gymru gyda'r byd.

Bydd yr arddangosfa'n mynd ar daith i leoliadau eraill yng Nghymru yn 2012 a 2013. Ewch i'n gwefan i ddarganfod ble y gallwch ei gweld.

2012

26 Mai 2012―7 Gorffennaf 2012: Amgueddfa Ceredigion

24 Awst 2012―20 Hydref 2012: Maenordy Scolton

1 Tachwedd 2012―5 Ionawr 2013: Tŷ a Pharc Bedwellte

2013

19 Ionawr 2013―2 Mawrth 2013: Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor

15 Mawrth 2013―1 Mehefin 2013: Amgueddfa Caerfyrddin

1Hydref 2013―4 Ionawr 2013: Amgueddfa Llandudno

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.