Morgannwg yn llwyddo gyda'r bat

Logo Morgannwg Image copyright Other

Roedd hi'n ddiwrnod da i Forgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Hampshire ddydd Iau.

John Glover a Wil Owen oedd bowlwyr gorau Morgannwg wrth iddyn nhw gyfyngu'r tîm cartref i 316 yn eu batiad cyntaf.

Ond yn rhy aml y tymor hwn mae'r batwyr wedi methu manteisio ar waith y bowlwyr - nid y tro hwn.

Will Bragg a Marcus North oedd ser Morgannwg wrth iddyn nhw sicrhau mantais ar ddiwedd y batiad cyntaf gyda sgôr o 327.

Bragg oedd y prif sgoriwr gyda 73 gyda North yn dynn ar ei sodlau gyda 70.

Daeth cyfraniad pwysig tua diwedd y batiad o 40 rhediad gan Dean Cosker.

David Balcombe oedd bowliwr gorau Hampshire gan gipio pedair wiced am 91 rhediad.

Mewn gêm glos, fe aeth Hampshire ar y blaen drachefn yn eu hail fatiad, ond gyda cyn lleied rhwng y ddau dîm mae'n argoeli i fod yn gystadleuaeth agos iawn dros y deuddydd nesaf.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2

Swydd Hampshire v. Morgannwg - Ail Ddiwrnod

Swydd Hampshire: (batiad cyntaf) = 316

(ail fatiad) = 25 am 0

Morgannwg: (batiad cyntaf) = 327

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.