Cludo tri beiciwr modur i'r ysbyty

Mae tri beiciwr modur wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar Stryd yr Eglwys, Aberbargod, ger Caerffili brynhawn Sul.

Digwyddodd y ddamwain am 1.10pm, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Aeth criwiau tân o Gefn Fforest a Glyn Ebwy i'r safle.

Fe wnaeth hofrennydd yr heddlu eu cludo i'r ysbyty.