Llys: Mam-gu'n rhoi tystiolaeth

Yaseen Ali Ege Image copyright Other
Image caption Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartref

Mae mam y fenyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei mab ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn honni ei bod wedi gweld y mab yng nghyfraith yn taro ei wraig a'i fab.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Sara Ege, 31 oed o Dreganna, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Eisoes mae hi wedi dweud mai ei gŵr, Yousuf Ali Ege, 38 oed, laddodd eu mab Yaseen oedd yn saith oed.

Mae'r tad wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.

Bygwth

Ddydd Mawrth clywodd y llys dystiolaeth y fam-gu Nafis Ahmed honnodd ei bod wedi gweld Yousuf Ali Ege yn taro Sara Ege ac Yaseen yn ystod ymweliad â'r teulu yn 2008.

Dywedodd wrth y llys fod teulu Yousuf Ali Ege wedi bygwth ei llofruddio hi a'i gŵr yn eu cartref yn India.

Pan gafodd ei chroesholi gan fargyfreithiwr Yousuf Ali Ege, gwadodd y fam-gu fod ei merch wedi dweud ei bod wedi bwrw Yaseen.

"Ddywedodd Sara ddim byd o'r fath imi erioed," meddai Mrs Ahmed.

'Yn gas'

"Pam y byddwn i wedi dod i'r Deyrnas Gyfunol os oedd Sara yn gas i'w phlant?"

Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre yng Ngorffennaf 2010.

Clywodd y llys fod y mab wedi marw oherwydd anafiadau yr un diwrnod.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol