Arhosiad annisgwyl yng Nghaergybi

Yr Ocean Countess yn gadael Lerpwl fore Mawrth
Image caption Roedd y llong ar ddechrau taith Jiwbilî 8 niwrnod i Ucheldir yr Alban

Mae llong gyda 1000 o deithwyr a staff arni, oedd ar ddechrau taith Jiwbilî arbennig, wedi gorfod docio'n annisgwyl yng Nghaergybi oherwydd nam arni.

Daeth y broblem i'r amlwg dros nos, gan olygu fod y llong - yr 'Ocean Countess' - heb bŵer am deirawr.

O'r herwydd gwnaed y penderfyniad i ddocio'r llong ym mhorthladd Caergybi am 1:00pm ddydd Mercher, er mwyn i brofion gael eu cynnal arni.

Mae'r cyflenwad pŵer bellach wedi'i adfer yn llwyddiannus.

Roedd y llong wedi cychwyn o Lerpwl am 4:00pm brynhawn dydd Mawrth, ar ddechrau taith 8 noson i Ucheldir yr Alban i ddathlu'r Jiwbilî Diemwnt.

Dywed y cwmni sydd wedi trefnu'r daith, Cruise & Maritime Voyages, fod y 719 o deithwyr wedi cael gwybod am y sefyllfa ac wedi cael cynnig rhaglen adloniant am ddim yn ystod eu harhosiad yng Nghaergybi.

Dywedodd Richard Bastow, Cyfarwyddwr Gweithredu Cruise & Maritime Voyages: "Ein blaenoriaeth yw diogelwch a chysur ein teithwyr ac mae'n ddrwg gennym am y broblem hon ar ddechrau eu gwyliau."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.