Rhestr lawn o'r Cymry i'w hurddo i Orsedd y Beirdd yn 2012

Pafiliwn

Mae nifer o Gymry yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Eleni bydd trefniadau newydd Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd yn dod i rym.

Fe fydd pob aelod newydd yn aelod ar yr un lefel, hynny yw fel Derwydd.

O hyn ymlaen, enillwyr prif wobrau llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig fydd yn cael eu hurddo i'r Wisg Wen.

Dyma'r rhai fydd yn cael eu derbyn fel Derwydd drwy anrhydedd a hynny ar fore Gwener, Awst 10, 2012:

Eurfyl Bowen, Pontyberem

Un a fu'n gweithio'n wirfoddol i'r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer. Fe yw un o'r bobl werthfawr hynny sy'n gosod a rhedeg maes carafanau'r Eisteddfod. Mae ei gyfraniad i lwyddiant yr Eisteddfod yn flynyddol yn amheuthun. (Gwisg Las)

Basil Davies, Y Barri

Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i'r iaith Gymraeg ar lefel broffesiynol a gwirfoddol. Cysylltir ei enw yn bennaf â maes Cymraeg i Oedolion lle bu'n llafurio am gyfnod o dros 30 mlynedd. Er yn frodor o Landdarog, Caerfyrddin, mae wedi byw yn Y Barri ers 1974. (Gwisg Werdd)

Wynne Evans, Caerdydd

Mae llais soniarus y tenor poblogaidd wedi swyno cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt ers dros chwarter canrif. Mae'n brif denor gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ac yn ymddangos yn rheolaidd gyda chwmnïau opera eraill. Yn enedigol o dref Caerfyrddin, mae'n byw yng Nghaerdydd. (Gwisg Werdd)

Betsi Griffiths, Y Rhondda

Cafodd ei geni a'i magu yn Y Gilfach Goch. Am bum mlynedd ar hugain roedd yn bennaeth ymroddgar Ysgol Gymraeg Tonypandy - yn wir, hi oedd pennaeth cyntaf yr ysgol hon. Mae hi hefyd yn weithgar yn ei bro, gan wasanaethu fel gohebydd lleol i Bapur Bro Tafod Elái. (Gwisg Las)

Gwenda Griffith, Caerdydd

Rhoddodd wasanaeth unigryw i'r genedl ym myd y cyfryngau ers 30 mlynedd. Un o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol, mae hi wedi ymgartrefu yn y brifddinas ers blynyddoedd. Sefydlodd y cwmni Fflic ar ddechrau cyfnod S4C a bu'n gyfrifol am gyfresi clodwiw, megis 'Pedair Wal', 'Y Tŷ Cymreig', a 'Cwpwrdd Dillad'. (Gwisg Las)

Linda Griffiths, Trefeurig, Aberystwyth

Mae'n enw cyfarwydd fel unawdydd gwerin ac fel aelod o'r grŵp poblogaidd Plethyn. Un o Bontrobert ym Maldwyn yn wreiddiol. Bu'n diddanu cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru, yn y gwledydd Celtaidd, yn yr Unol Daleithiau a Chanada, yn ystod cyfnod o dros 30 mlynedd. (Gwisg Werdd)

William Irfon Griffiths, Comins Coch, Aberystwyth

Fel pob gwir grefftwr, gŵr diymhongar, dyfal a diddorol yw hwn. Cadw gwenyn yw ei brif ddiddordeb hamdden ac fe gasglodd brofiadau hanner can mlynedd o fod wrth ei grefft, ar gyfer ei gyfrol 'Dyn y Mêl' sy'n rhestr werthfawr o dermau gwenynna Cymraeg. (Gwisg Las)

John Hartson

Mae'n un o'r lleisiau cyfarwydd ym myd sylwebu pêl-droed yn yr iaith Gymraeg. Ar y maes roedd ei ddewrder, ei ddycnwch a'i benderfyniad yn amlwg wrth chwarae i dimau blaengar, gan gynnwys Luton, Arsenal, West Ham United, Celtic a thros y tîm cenedlaethol. Wedi triniaeth feddygol lwyddiannus aeth ati i lansio Sefydliad John Hartson er mwyn codi arian a hyrwyddo ymwybyddiaeth am achos Canser y Ceiliau. (Gwisg Las)

Bethan Wyn Jones, Ynys Môn

Ers blynyddoedd mae wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru ar raglenni byd natur. Bu'n gyfrifol am raglenni megis 'Awyr Agored' a 'Gweld Llais a Chlywed Llun' ynghyd â'r rhaglen 'Galwad Cynnar' ar fore Sadwrn. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn cyflwyno agweddau o fyd natur mewn ffordd glir a darllenadwy. Ynys Môn yw ei 'milltir sgwâr' ac mae darllen am ei phrofiadau yn cerdded yr arfordir ym mhob tywydd yn hudolus. (Gwisg Las)

Carwyn Jones, Pen-y-bont ar Ogwr

Ers 2009 fe yw Prif Weinidog Cymru. Mae'n Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ers 1999 a bu'n Weinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Iaith Gymraeg rhwng 2007 a 2009. Yn fargyfreithiwr o ran galwedigaeth, bu'n gwasanaethu yn Siambrau Gŵyr yn Abertawe am 10 mlynedd. Mae ganddo ddiddordeb eang ym myd chwaraeon, yn enwedig rygbi, lle y mae'n gefnogwr selog o'i dîm lleol ym Mhen-y-bont. (Gwisg Las)

Elin Ellis Jones

Mae ei chyfraniad i fyd Meddygaeth Iechyd Meddwl dros y blynyddoedd yn sylweddol. Mae hi'n seiciatrydd fu'n gweithio yn Ysbytai Gogledd Cymru ac yn Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy. Un o Lŷn ydyw ac mae hi'n ymfalchïo yn ei magwraeth ddiwylliedig yn y gymdeithas honno. Fel trysorydd y Gymdeithas Seiciatryddol yng Nghymru, llwyddodd i Gymreigio gweithgareddau'r mudiad. (Gwisg Las)

Gareth Davies Jones, Wrecsam

Treuliodd ei holl yrfa ym myd addysg. Bu'n ymgynghorydd y Gymraeg yn Sir Ddinbych rhwng 1967 a 1971 ac yna'n Arolygwr ei Mawrhydi hyd 1997. Mae'n un sydd yn cyfrannu'n helaeth i fywyd Cymraeg tref Wrecsam ac yn aelod blaengar o Gyngor Llyfrau Cymru ers 35 o flynyddoedd. Bu'n weithgar iawn ar bwyllgorau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011. (Gwisg Las)

Gareth Parry Jones, Caernarfon

Un oedd yn feddyg teulu yng Nghaernarfon am dros 30 o flynyddoedd. Am gyfnod bu'n Llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg, cymdeithas sy'n cynnal Cynhadledd Addysg Feddygol trwy gyfrwng y Gymraeg yn flynyddol. Fel tiwtor addysg barhaol roedd yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd addysgiadol i feddygon teulu yng Ngwynedd. Trwy gydol ei yrfa roedd yn ddiflino yn ei ymdrech i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn y proffesiwn meddygol. (Gwisg Las)

Stephen Jones

Enillodd 104 o gapiau dros dîm rygbi Cymru yn safle'r maswr. Mae'n Gymro i'r carn ac wedi bod yn was ffyddlon a phoblogaidd i'w gamp a'i wlad ac yn un sydd wedi sbarduno a chynorthwyo chwaraewyr ifanc. Mae wedi bod yn llysgennad ardderchog yn rhyngwladol dros y Llewod yn 2005 a 2009 ac wedi ymddangos dros 200 o weithiau i'r Scarlets, gan sgorio 2000 o bwyntiau. (Gwisg Las)

Ann Keane

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yng Nghymru ers 2010. Wedi gyrfa fel darlithydd mewn colegau, fe'i penodwyd yn Arolygydd Ysgolion yn 1984 a rhoi sylw arbennig i addysg ddwyieithog ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ystalyfera a Llandysul cyn graddio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. (Gwisg Las)

Meirion Llewelyn

Un o feibion Dyffryn Clwyd. Astudiodd feddygaeth yn Ysgol Feddygol Caerdydd, Llundain, Caergrawnt a Havard yn yr Unol Daleithiau. Yn ystod ei yrfa roedd yn Niwrolegydd Ymgynghorol ac Uwch Gofrestrydd Meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Erbyn hyn, mae'n Feddyg Ymgynghorol mewn clefydau heintus yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ymysg y gwobrau a gyflwynwyd iddo mae'n hynod o falch o wobr Awdurdod Iechyd Gwent fel Pencampwr yr Iaith Gymraeg. (Gwisg Las)

Noel Lloyd, Ceredigion

Mae'n enw cyfarwydd i ysgolheigion ein cenedl. Bu'n Athro Adran Mathemateg Prifysgol Aberystwyth cyn cael ei benodi'n Brifathro ac Is-ganghellor y brifysgol honno yn 2004. Mae'n un sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r sector addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt. Ar ei ysgwyddau ef y disgynnodd y cyfrifoldeb o gyflwyno a gwireddu gofynion Cynllun Iaith y Brifysgol. Ymatebodd yn frwd i'r dasg hon a bu'n gyson ei gefnogaeth a'i ddylanwad. (Gwisg Las)

Lisabeth Miles, Caerdydd

Actores flaenllaw ers dechrau'r chwedegau. Mae ei gyrfa ddisglair dros gyfnod maith yn parhau hyd heddiw wrth iddi ymddangos yn gyson ar ein sianel genedlaethol. Bu'n serennu ar lwyfannau Cymru, gan sicrhau lle arbennig yng nghalon y genedl. Bu hefyd yn hael o'i hamser wrth hyfforddi pobl ifanc yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac mae ei gwaith diflino dros y 'pethe' yng Nghaerdydd yn ganmoladwy. (Gwisg Werdd)

Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan

Brodor o Dreforys sydd bellach yn byw yn Llanbedr Pont Steffan. Bu'n Weinidog yr Efengyl am gyfnod cyn cael ei benodi'n ddarlithydd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor ac yna'n Bennaeth yr Adran yn 2004. Yn 2010 fe'i penodwyd yn Bennaeth Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae'n awdur toreithiog yn y ddwy iaith a bu'n darlithio droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. (Gwisg Las)

Arwel Ellis Owen

Cafodd yrfa ddisglair yn y byd darlledu, gan ddal swyddi blaengar. Bu'n Olygydd Newyddion BBC Cymru, yn Bennaeth Rhaglenni BBC Gogledd Iwerddon, yn Gadeirydd Ysgol Ffilmiau Rhyngwladol ac yn Brif Weithredwr dros dro ar S4C. Mae'n un a gafodd ddylanwad mawr ar fyd y cyfryngau ac yn un a dderbyniodd clod am ei waith yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cyngor Gofal Cymru ac yn Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol. (Gwisg Las)

Magwen Pughe, Cemaes ger Machynlleth

Mae wedi rhoi gwasanaeth diflino i ardal Bro Ddyfi ac i ddiwylliant Cymru. Yn enedigol o Chwilog, bu'n athrawes yn Ysgol Gynradd Glantwymyn am flynyddoedd. Mae ei doniau cerddorol yn amlwg a defnyddia'r doniau hynny i gyfoethogi bywyd ei chymuned, yn arweinydd Côr Gore Glas ac yn hael o'i hamser wrth hyfforddi pobl ifanc y Ffermwyr Ifanc ac Aelwyd yr Urdd. (Gwisg Werdd)

Sharon Rees, Y Rhondda

Un a fu'n gweithio'n ddyfal yn ardal ddifreintiedig Penrhys yn Y Rhondda ers 21 o flynyddoedd. Yn wreiddiol o Gwm Tawe, bu'n weithgar ym myd addysg gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin, yn wirfoddolwraig gyda phobl ag anghenion arbennig ac ers 1991, yn weithiwr addysg ym Mhenrhys. Mae ei gwasanaeth a'i hymrwymiad i'r gymuned hon yn unigryw ac mae hi'n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymreictod y bobl ifanc yn ei gofal. (Gwisg Las)

Iwan Roberts

Cymro Cymraeg a ymfalchïodd yn ei wreiddiau a'i iaith gydol ei yrfa fel pêl-droediwr. Un o Ddyffryn Ardudwy yn wreiddiol a adawodd ei gartref yn 16 oed i ymuno â Chlwb Pêl-droed Watford. Cafodd yrfa lwyddiannus gyda Chlwb Pêl-droed Norwich a thîm cenedlaethol Cymru. Ers ei ymddeoliad fel chwaraewr, mae'n sylwebydd craff ar raglenni chwaraeon BBC Cymru, bob amser yn fodlon rhoi o'i amser i hyrwyddo chwaraeon a chefnogi cymdeithasau diwylliannol ei fro. (Gwisg Las)

Huw Stephens, Caerdydd

Yn enedigol o'r brifddinas daeth i amlygrwydd yn 1999 wrth gael ei ddewis i fod yn un o gyflwynwyr Radio 1 ar raglen ranbarthol Cymru'r orsaf, y troellwr ieuengaf erioed i weithio i'r orsaf. Mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth ac yn ystod ei raglenni, mae'r Gymraeg yn cael lle amlwg. Mae'n parhau i ddarlledu yn y Gymraeg ar orsaf Radio Cymru ac yn 2007 sefydlodd Ŵyl Gerddoriaeth newydd yng Nghaerdydd sef Gŵyl Sŵn. (Gwisg Werdd)

Gwerfyl Thomas, Bro Ogwr

Un a gyfrannodd yn helaeth i fywyd diwylliannol Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Bu'n athrawes frwdfrydig yn Ysgol Gymraeg Maesteg ac yn weithgar gyda chapel y Tabernacl. Bu'n aelod sylfaenol o gôr Merched y Fro ac fe gyfrannodd yn helaeth at sefydlu'r Papur Bro 'Yr Hogwr'. Mae'n aelod brwd o Gymdeithas Lenyddol Porthcawl ac yn gystadleuydd cyson mewn eisteddfodau. (Gwisg Las)

Dyfrig Williams

Bu'n gweithio'n wirfoddol i'r Eisteddfod Genedlaethol ers 1996, gan gymryd y cyfrifoldeb blynyddol o redeg maes carafanau'r Eisteddfod. Yn ogystal â gofalu am redeg y maes ac arwain tîm o wirfoddolwyr drwy'r wythnos, mae hefyd yn cynghori ar gynllun y maes a materion yn ymwneud â diogelwch. Bu hefyd yn gyfrifol am gynllunio a chynghori ar gynnwys cwrs hyfforddiant i'r stiwardiaid gwirfoddol. (Gwisg Las)

Gwynne Williams, Dyffryn Nantlle

Fel 'talp o graig gadarn' y caiff ei ddisgrifio. Treuliodd ei oes fel gŵr busnes llwyddiannus, gan wasanaethu ei ardal yn helaeth. Roedd ei grŵp "Hogiau'r Delyn" rhwng 1969 a 1975 yn diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru. Ar hyd ei oes mae wedi cynnig gwasanaeth gwirfoddol ac eang i'w ardal mewn amrywiol feysydd. Un o'i ddiddordebau pennaf yw 'Seindorf Arian Dyffryn Nantlle' a bu'n aelod ffyddlon o'r band ers 1964. (Gwisg Las)

Iwan Bryn Williams, Penllyn

Yn un o brif gynheiliaid bywyd diwylliannol Y Bala a Phenllyn, fe wnaeth gyfrannu'n helaeth i nifer fawr o gymdeithasau gwahanol ac amrywiol. Ymysg ei gyfraniadau, mae'n Brif Olygydd papur bro 'Pethe Penllyn', yn un o symbylwyr sefydlu 'Cantref', y ganolfan dreftadaeth ac aelod o dîm Penllyn ar Dalwrn y Beirdd. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Powys Y Bala ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau 2009. (Gwisg Las)

Shane Williams

Un o Ddyffryn Aman a ddechreuodd ei yrfa fel chwaraewr rygbi gyda'i glwb lleol, Clwb Rygbi'r Aman, cyn symud at glwb Castell-nedd a'r Gweilch. Mewn gyrfa ryngwladol anhygoel enillodd 87 o gapiau dros ei wlad, gan helpu'r tîm cenedlaethol i ennill dwy Gamp Lawn. Dros Gymru fe sgoriodd record o 58 o geisiau ac fe gynrychiolodd y Llewod mewn pedair gêm brawf yn Ne Affrig yn 2009. Mae'n Gymro Cymraeg ac yn un sy'n dangos balchder yn ei Gymreictod. (Gwisg Las)

Straeon perthnasol