105 o swyddi'n diflannu

BAE Systems
Image caption Dywedodd llefarydd fod llai o alw am arfau.

Mae cwmni BAE Systems wedi cyhoeddi y bydd 105 o swyddi'n diflannu yn eu ffatri arfau yng Nglascoed ger Brynbuga yn Sir Fynwy.

Ar hyn o bryd mae 620 yn gweithio yno.

Dywedodd llefarydd fod y toriadau oherwydd moderneiddio'r dulliau cynhyrchu - yn sgil £50m o fuddsoddi - a llai o alw am arfau.

"Mae angen gwneud hyn er mwyn bod yn gystadleuol," meddai.

Byddai 80% o'r toriadau yng Nglascoed yn effeithio ar weithwyr cytundeb, ychwanegodd.

'Heriol'

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Charlie Blakemore: "Rhaid i ni addasu at amgylchiadau heriol yn y farchnad a lleihau costau cyffredinol.

"Mae hyn yn newyddion anodd i'n gweithwyr ac fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i helpu gweithwyr ddygymod â sefyllfa anodd."

Ym Mhrydain bydd 600 o swyddi'n diflannu a'r ffatri yn Newcastle yn cau'n llwyr.

Straeon perthnasol